Newyddion S4C

Genedigaethau mewn dŵr 'ddim yn fwy peryglus'

11/06/2024
Mamolaeth

Nid yw genedigaethau mewn dŵr yn fwy peryglus i'r fam na'r babi, yn ôl ymchwil newydd gan un o brifysgolion Cymru. 

Mae'r astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos nad yw geni mewn dŵr yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau i'r naill na'r llall.

Fe wnaeth y tîm archwilio:

  •  cyfradd y rhwygiadau difrifol oedd menywod wedi eu dioddef yn ystod genedigaeth

  • y nifer o fabanod oedd angen gwrthfiotigau neu gymorth i anadlu ar uned newydd enedigol ar ôl genedigaeth

  •  nifer y babanod a fuodd farw

Yn ôl yr ymchwilwyr, nid oedd y risgiau “yn uwch ymhlith genedigaethau dŵr o gymharu â genedigaethau allan o ddŵr”.

Fe gafodd yr ymchwil ei arwain gan Julia Sanders, athro bydwreigiaeth glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Sanders: “Yn y DU mae tua 60,000 o fenywod y flwyddyn yn defnyddio pwll geni neu faddon i leddfu poen wrth esgor, ond roedd rhai bydwragedd a meddygon yn pryderu y gallai genedigaethau dŵr fod â risgiau ychwanegol.

“Mae adroddiadau wedi bod y gallai babanod fynd yn ddifrifol wael - neu hyd yn oed farw - ar ôl genedigaethau dŵr, a bod mamau yn fwy tebygol o gael rhwygiadau difrifol neu golli gwaed yn drwm.

“Roeddem eisiau sefydlu os yw genedigaethau dŵr gyda bydwragedd y GIG yr un mor ddiogel â rhoi genedigaeth allan o ddŵr i fenywod a’u babanod sydd â risg isel o gymhlethdodau.”

'Dim cynnydd'

Mae tua 10% o fenywod yn y DU yn rhoi genedigaeth mewn pyllau ac mae bron i 20% yn defnyddio dŵr i leddfu'r boen, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Geni Genedlaethol.

Roedd yr ymchwilwyr wedi dadansoddi 73,229 o gofnodion iechyd menywod beichiog risg isel a oedd wedi defnyddio pwll yn ystod y cyfnod esgor ar draws 26 o sefydliadau’r GIG yng Nghymru a Lloegr rhwng 2015 a 2022.

Yn ôl yr ymchwil, mae un o bob 20 o famau tro cyntaf wedi dioddef rhwyg difrifol o'i gymharu ag un o bob 100 o famau sy'n cael ail, trydydd neu bedwerydd babi.

Mae tri o bob 100 o fabanod angen gwrthfiotigau neu help i anadlu, ond prin yw'r marwolaethau - cofnodwyd saith yn y grŵp genedigaethau dŵr o'i gymharu â chwech ymhlith y rhai a roddodd enedigaeth allan o ddŵr.

Roedd cyfraddau toriad cesaraidd hefyd yn isel - o dan 6% ar gyfer mamau tro cyntaf, ac o dan 1% ar gyfer mamau sy'n cael eu hail, trydydd neu bedwerydd babi.

Ychwanegodd yr Athro Sanders fod y canfyddiadau “yn sefydlu’n wyddonol nad oedd rhoi genedigaeth mewn dŵr yn gysylltiedig â chynnydd mewn risg i’r fam a’r babi”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.