Newyddion S4C

Plant ysgolion Cymru 'ddim yn cael digon o amser chwarae'

11/06/2024
Ysgol

Dyw plant ysgolion Cymru ddim yn cael digon o amser chwarae yn ôl dau sefydliad cenedlaethol.

Mae'r elusen Chwarae Cymru ar y cyd â Chymdeithas Chwarae Ryngwladol Cymru (IPA Cymru) wedi gofyn i ysgolion roi amser ychwanegol i bob plentyn chwarae drwy ymestyn yr egwyl ginio neu ddarparu amser chwarae ychwanegol ar adegau eraill o'r dydd.

Daw'r alwad ar y Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf erioed, sydd wedi ei neilltuo gan y Cenhedloedd Unedig i ddathlu hawl plant i chwarae a’i bwysigrwydd i’w lles. 

Bydd y diwrnod yn cael ei gynnal ar 11 Mehefin bob blwyddyn ac yn rhoi cyfle meddai'r trefnwyr i godi ymwybyddiaeth o chwarae plant yn fyd-eang.

Dywedodd Marianne Mannello, ysgrifennydd cangen Cymdeithas Chwarae Ryngwladol Cymru, bod "angen i ni roi mwy o gyfleoedd i blant chwarae – nid yn unig ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae, ond bob diwrnod o'r flwyddyn".

"Yn ystod y diwrnod ysgol, dylai plant gael digon o amser a lle i chwarae’n rhydd gyda’u ffrindiau," meddai. 

"Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn ddiwrnod ysgol eleni, felly mae'n gyfle perffaith i ysgolion ddiogelu amser chwarae a meddwl sut y gellir ymgorffori mwy o amser ar gyfer chwarae ym mhob diwrnod."

'Camymddwyn'

Yn ôl Arolwg Omnibws Plant Cymru yn 2022, roedd disgyblion wedi dweud bod amser chwarae yn rhan bwysig o’r diwrnod ysgol.

Dywedodd 98% o’r disgyblion a gafodd eu holi eu bod yn edrych ymlaen at amser chwarae yn yr ysgol.

Ychwanegodd 82% eu bod yn arbennig o hoff o amser chwarae gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw dreulio amser gyda'u ffrindiau.

Ond ôl yr arolwg, roedd 61% o blant wedi methu amser chwarae er mwyn dal i fyny â'u gwaith neu oherwydd eu bod wedi camymddwyn.  

Dywedodd Mike Greenaway, cyfarwyddwr Chwarae Cymru, bod ysgolion yn chwarae "rhan fawr" wrth hyrwyddo’r hawl i blant gael amser tu allan i'r dosbarth.

"Pan wnaethom ofyn iddyn nhw, dywedodd y rhan fwyaf o blant fod amser chwarae yn rhan bwysig o’r diwrnod ysgol ac maen nhw’n hoff iawn o amser chwarae gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw dreulio amser gyda’u ffrindiau," meddai.

"Fodd bynnag, mae gormod o blant yn dweud eu bod wedi colli amser chwarae er mwyn dal i fyny â'u gwaith neu oherwydd bod athro yn teimlo eu bod wedi camymddwyn. Rydym yn annog pob ysgol i sicrhau bod pob plentyn yn cael digon o amser i chwarae yn yr ysgol."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.