Newyddion S4C

Yr heddlu 'wedi ystyried cludo dynes i'r ysbyty' cyn iddi farw yng ngorsaf heddlu Caernarfon

10/06/2024
Gorsaf Heddlu Caernarfon

Mae cwest i farwolaeth dynes yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yng Ngwynedd wedi clywed bod swyddogion wedi ystyried ei chludo i'r ysbyty cyn iddi gael ei darganfod yn anymatebol.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ddydd Llun mai Helen Karen Williams, 43 oed, o Ffordd Caernarfon ym Mangor oedd y ddynes a fu farw.

Dyweododd y Crwner Kate Robertson wrth y gwrandawiad: "Nid wyf eto wedi derbyn achos ei marwolaeth. Gan bod Helen Williams wedi marw yn y ddalfa, mae'n ofynnol fy mod yn agor cwest i'w marwolaeth.

"Mae ymchwiliadau ar y gweill wedi i Heddlu Gogledd Cymru gyfeirio eu hunain yn wirfoddol at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu."

Bu farw Helen Williams yn y ddalfa ar 24 Mai.

Dywedodd y crwner ei bod wedi cael clywed bod Ms Williams wedi ei chludo i'r ddalfa cyn dechrau teimlo'n sâl.

Fe roddwyd triniaeth CPR iddi mewn ymdrech i achub ei bywyd meddai'r crwner.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu: "Cafodd Helen Williams ei harestio gan Heddlu Gogledd Cymru y tu allan i eiddo ym Mangor fore Iau, Mai 23, er mwyn ei galw’n ôl i’r carchar. 

"Aed â hi i orsaf heddlu Caernarfon lle cafodd ei hawdurdodi i'w chadw yn y ddalfa am tua hanner dydd. Arhosodd yn y ddalfa tra'n aros ar gyfer ei hymddangosiad llys. 

"Deallwn fod Ms Williams wedi'i rhoi ar arsylwadau rheolaidd gan staff y ddalfa a'i bod wedi cael ei gweld gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

“Am tua 16.30pm y diwrnod wedyn, canfuwyd bod Ms Williams wedi dioddef digwyddiad meddygol. 

"Er gwaethaf ymdrechion CPR, a phresenoldeb parafeddygon ac ambiwlans awyr, yn anffodus, cyhoeddwyd ei bod wedi marw tua 17:20 ar Fai 24.

“Mae ein hymchwiliad yn edrych ar lefel y gofal a ddarparwyd i Ms Williams yn ystod ei chyfnod yn y ddalfa, gan gynnwys penderfyniadau a gweithredoedd swyddogion heddlu a staff ac a wnaethant weithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol.”

Dywedodd cyfarwyddwr Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, David Ford: “Mae fy nghydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau Ms Williams a phawb sydd wedi’u heffeithio gan ei marwolaeth.

“Mae’n bwysig bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i sefydlu’n llawn yr amgylchiadau pan fo rhywun wedi marw yn nalfa’r heddlu. 

"Rydym wedi siarad â’r teulu i fynegi ein cydymdeimlad ac egluro ein rôl. 

"Byddwn yn eu diweddaru drwy gydol ein hymchwiliad, ynghyd â'r heddlu a'r crwner.

“Rydym yn casglu cyfrifon gan swyddogion a staff dan sylw fel rhan o’n hymchwiliadau. Rydym hefyd yn gwylio teledu cylch cyfyng o'r ddalfa a fideo camera corff gan y swyddogion a arestiodd Ms Williams."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.