Newyddion S4C

Cyhoeddi enw dyn 20 oed a fu farw ar draeth poblogaidd yng Ngwynedd

10/06/2024
Hofrennydd ar draeth Bermo

Mae enw'r dyn 20 oed a fu farw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ar draeth Y Bermo yng Ngwynedd wedi cael ei gyhoeddi.  

Fe gafodd Mohamad Alkadour o Ffordd Trefor yn Wrecsam ei dynnu o’r dŵr ddwy awr wedi iddo gael ei weld am y tro diwethaf.

Dywedodd y crwner, Kate Robertson fod Mr Alkadour wedi bod yn nofio gyda’i ffrind yn y môr.

Roedd “rhai tonnau wedi dod tuag ato gyda rhywfaint o rym", meddai.

Fe achosodd hynny iddo gael ei dynnu o dan y dŵr.

Fe roddwyd triniaeth CPR i Mr Alkadour wedi iddo gael ei ddarganfod, a chafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn hofrennydd.

Ond fe fuodd farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach ar 27 Mai.

Boddi oedd achos ei farwolaeth. 

Fe gafodd cwest i’w farwolaeth ei agor yng Nghaernarfon oherwydd “natur annaturiol ei farwolaeth,” esboniodd y crwner. 

Mae’r cwest bellach wedi’i ohirio. 

Llun: Gwynfor Owen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.