Newyddion S4C

Etholiad 24: Mewnfudo yn ysgogi gwrthdaro chwyrn mewn dadl deledu

08/06/2024
Dadl ymgeiswyr

Fe wnaeth y pwnc mewnfudo ysgogi gwrthdaro chwyrn rhwng y pleidiau yn y ddadl ddiweddaraf ar y teledu cyn yr etholiad cyffredinol.

Y saith plaid a gymerodd ran yn nadl y BBC oedd y Ceidwadwyr, Gwyrddion, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, Reform UK a’r SNP.

Wrth agor y ddadl ar fewnfudo, dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, fod yr holl bleidiau eraill yn meddwl bod cwestiynu mudo yn “anghywir”.

Dywedodd fod mewnfudo yn creu “argyfwng poblogaeth”, gan leihau ansawdd bywydau pobol, ac y dylai hwn felly fod yn “etholiad mewnfudo”.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod rhaid newid naws y ddadl ar fewnfudo. Dywedodd fod "gormod ohono wedi'i fframio o amgylch mawredd pobl fel Nigel Farage".

Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn “sefyll lan yn erbyn Nigel Farage”, gan ychwanegu bod “angen mewnfudo ar gyfer y system iechyd, y system ofal a’r economi”.

I’r SNP, dywedodd Stephen Flynn fod mudo yn “hollol hanfodol” ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a’r economi.

Dywedodd fod angen i ni "roi diwedd ar y pardduo" o fudo.

Dywedodd Penny Mordaunt, ar ran y Ceidwadwyr, fod mewnfudo yn rhy uchel, gan ychwanegu y byddai gan ei phlaid “gap blynyddol” ar niferoedd.

“Beth fydd hynny’n ei wneud yw cymryd i ystyriaeth anghenion economaidd y gweithlu ond hefyd y pwysau mae mewnfudo yn ei roi ar gymunedau,” meddai.

Fe wnaeth Ms Mordaunt farnu’r prif weinidog am adael digwyddiad coffau D-Day yn gynnar.

Dywedodd Ms Mordaunt ei bod yn iawn fod Rishi Sunak yn “hollol anghywir” a’i fod yn iawn iddo ymddiheuro i gyn-filwyr ac i'r cyhoedd.

'Llanast'

I'r Blaid Lafur, problemau gyda thai, ffyrdd ac iechyd yn ddim i’w wneud â mewnfudo ond yn ymwneud â’r “dinistr y mae’r Torïaid wedi’i wneud i’n gwasanaethau cyhoeddus” oedd neges Angela Rayner.

Dywedodd y byddai Llafur yn cael gwared ar gynllun Rwanda y llywodraeth Geidwadol ac yn rhoi’r arian i mewn i reoliad diogelwch ffiniau newydd, a dywedodd y byddai’n “chwalu’r gangiau” masnachu mewn pobl i’r DU.

Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Daisy Cooper fod y Ceidwadwyr wedi gwneud “llanast llwyr o’r system fudo ond hefyd o’r system lloches”.

Dywedodd: “Mae gennym ni bobl sy'n anobeithiol ac yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth yn cyrraedd ar gychod bach...ar yr un pryd mae gennym ni ein GIG, gofal cymdeithasol, lletygarwch a pheirianneg, a all recriwtio'r staff i hybu ein heconomi”.

I’r Gwyrddion, dywedodd Carla Denyer: “Pe baech chi’n cwrdd ag ymfudwr yn y GIG, maen nhw’n fwy tebygol o fod yn eich trin chi na bod o’ch blaen chi yn y ciw.”

Dywedodd fod ymfudwyr wedi bod yn “beth da” i’r DU – doedd y Gwyrddion ddim eisiau “capiau” ar fudo, roedden nhw eisiau system a oedd yn “decach ac yn fwy trugarog”.

Fe fydd yr Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.