Newyddion S4C

Gofodwr Nasa a dynnodd lun enwog o’r Ddaear wedi ei ladd mewn gwrthdrawiad awyren

08/06/2024
Y Ddaear o'r gofod

Mae’r gofodwr Apollo 8 Bill Anders, a dynnodd un o luniau mwyaf eiconig o’r gofod, wedi marw mewn gwrthdrawiad awyren yn 90 oed.

Dywedodd swyddogion yn yr Unol Daleithiau fod yr awyren fach oedd yn hedfan wedi plymio i’r môr oddi ar arfordir talaith Washington.

Roedd Anders yn beilot ar alldaith Apollo 8 yn 1968 pan dynnodd y llun eiconig o’r Ddaear yn gwawrio dros y gorwel ar noswyl Nadolig.

Apollo 8 oedd yr alldaith gyntaf gyda chriw i adael y Ddaear a chyrraedd y lleuad.

Mae'r ddelwedd yn cael ei gydnabod yn eang am gymell y mudiad amgylcheddol byd-eang ac arwain at greu Diwrnod y Ddaear, digwyddiad blynyddol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ofalu am y blaned.

Llun: NASA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.