Etholiadau Ewrop: 'Cymaint yn y fantol' i'r cyfandir
Etholiadau Ewrop: 'Cymaint yn y fantol' i'r cyfandir
O'r Ffindir i Gyprus, o Iwerddon i Fwlgaria, mae pobl mewn 27 o wledydd wrthi yn pleidleisio yn yr Etholiadau Ewropeaidd.
Mae dros 350 miliwn o bobl yn gymwys i bleidleisio er mwyn ethol 720 o aelodau newydd i Senedd Ewrop.
Dechreuodd y pleidleisio ddydd Iau yn Yr Iseldiroedd, gyda phobl yn Iwerddon a Malta yn pleidleisio ddydd Gwener a Latfia a Slofacia yn pleidleisio ddydd Sadwrn.
Fe fydd mwyafrif o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn pleidleisio ddydd Sul.
Mae'r Senedd, sydd wedi ei lleoli ym Mrwsel a Strasbourg, yn pasio cyfreithiau sy'n effeithio bywydau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r pleidiau asgell dde a'r asgell dde eithafol wedi gwneud cynnydd sylweddol ar draws Ewrop, ac mae disgwyl i hyn gael ei adlewyrchu yn y Senedd Ewropeaidd nesaf.
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol a newyddiadurwraig Euronews Mared Gwyn wrth Newyddion S4C: "Dyma'r etholiadau Ewropeaidd cyntaf ers Brexit a ma' 'na gymaint yn y fantol i Ewrop oherwydd mae'r arolygon barn yn rhagweld y bydd yna ymchwydd yn y gefnogaeth i bleidiau ar yr asgell dde bell.
"Mi all y pleidiau hynny ennill yr etholiad mewn sawl gwlad yn cynnwys Ffrainc, Yr Eidal a hefyd yng Ngwlad Belg."
Erbyn nos Sul, fe fydd hi'n glir pa bleidiau sydd wedi ennill y 720 o seddi yn y Senedd, sef 15 sedd yn fwy nag yn 2019.
Mae'r nifer o Aelodau Seneddol Ewropeaidd sydd gan bob gwlad yn cyfateb â'i phoblogaeth. Mae gan Yr Almaen 96 sedd, tra bod gan Ffrainc 81 a'r Eidal 76.
Yn draddodiadol, y ddwy blaid fwyaf ydy'r blaid ganol-dde Plaid Pobl Ewropeaidd a'r blaid ganol-chwith Cynghrair Flaengar y Sosialwyr a'r Democratiaid ond mae pleidiau eraill wedi dod yn fwyfwy arwyddocaol.
'Codi cwestiynau'
Ychwanegodd Mared Gwyn: "Mae disgwyl i'r pleidiau pro-Ewropeaidd ar y canol ddal eu gafael ar fwyafrif ond mae'r gefnogaeth yn newid, Mae'r pleidiau eithafol yn poeni nifer o bobl yma ym Mrwsel, maen nhw'n hanesyddol yn Ewrosceptig, maen nhw'n ansicr am anfon cefnogaeth milwrol ag ariannol i Wcráin.
"Felly os nos Sul y byddan ni'n gweld yr ymchwydd yma i'r dde bell, mae o'n codi cwestiynau mawr am ddyfodol yr Undeb Ewropeaidd.
"Mi fydd yna fwy a mwy o bobl yn mynd i'r blychau a mi gawn ni ddarlun gwell o'r Senedd newydd yna nos Sul. Dros y misoedd a'r wythnosau nesaf wedyn, mi fydd yna negodi am pwy sy'n cael y prif swyddi yma ym Mrwsel yn cynnwys Llywydd y Comisiwn yma.
"Felly mae 'na lot i wylio allan amdana fo, ac mi gawn ni weld be fydd y canlyniadau hollbwysig 'na nos Sul."