Newyddion S4C

Elusen yn creu atgofion i blant â chyflyrau difrifol

07/06/2024

Elusen yn creu atgofion i blant â chyflyrau difrifol

Mae'r cyfle i farchogaeth a cherdded y ceffyl o gwmpas y stabl yn brofiad mawr i Connor sy'n 13 oed.

Mae'n dioddef o gyflwr prin sy'n golygu bod e'n methu anadlu yn y nos heb gymorth peiriant.

Mae hefyd yn awtistig ac yn cael triniaeth cemotherapi am ganser.

Mae'n un o nifer o blant yn ymweld â Gwersyll yr Urdd Llangrannog ar ddiwrnod mas gydag elusen y Gronfa Ddymuniadau.

"Mae'r Urdd i bawb.

"Ni wastad yn edrych ar ffordd o wneud e'n fwy cynhwysol.

"Mae hwnna'n rhan o strategaeth yr Urdd yn Llangrannog ac yn y tri safle arall o fewn yr Urdd."

Mae diwrnod mas ar lan y môr yn Llangrannog yn hwyl ond hefyd, gyda help yr elusen, yn rhad.

I un teulu o Frynaman sydd â'i mab yn gwella o ganser y gwaed mae hynny'n help.

"Ar y funud, fi off gwaith a dim ond fy mhartner i sy'n gweithio.

"Mae'n anodd cael arian i gael dyddiau mas.

"Mae cael rhywbeth fel hyn yn gwneud gwahaniaeth i fi, fe a'i chwaer.

"Ni gyd 'di bod mewn am y deg mis diwethaf a dim siawns gwneud dim."

"Shw'mae, hoffet ti bitsa?"

Yn y gegin, mae Connor a'i fam yn barod am ginio.

Mae'n gyfle i ymlacio ar ôl diwrnod o hwyl a phrofiadau newydd.

"Mae 'di bod yn ddiwrnod gwd ac mae Connor wedi joio fe.

"Ti 'di trial y toboggan a'r go-carts.

"Ni'n mynd i wneud bach o skiing a horseriding, so bach o bopeth.

Mae'n galed cael diwrnod mas fel teulu pan fod gofal yn dod mewn.

"Na, mae'n amser tough pan ti'n gofalu am rywun ond mae diwrnod fel hyn yn rili gwd."

Cafodd Llyr diwmor ar yr ymennydd ddwy flynedd yn ôl pan yn 12 oed.

Heddiw, mae'n gyfle iddo gymdeithasu ac ymlacio.

"Mae e 'di joio ond yn nerfus achos bod anghenion gyda fe.

"Amser mae'n dod 'ma, o'dd e ddim yn keen ar y dechrau ond mae wedi joio a mwynhau a mae wedi cymysgu â pobl eraill."

"Maen nhw'n cael hwyl fan hyn.

"Rhai amser, dy'n nhw ddim yn gallu mynd i'r ysgol achos bod nhw'n sâl.

"Mae gallu dod fan hyn dros y gwyliau'n rili gwd."

Mae'r diwrnod yn dirwyn i ben yn Llangrannog ond y gobaith yw y bydd yr atgofion yn parhau am byth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.