Newyddion S4C

Trump yn dweud ei fod am apelio yn erbyn euogfarnau llys yn Efrog Newydd

07/06/2024

Trump yn dweud ei fod am apelio yn erbyn euogfarnau llys yn Efrog Newydd

"Former president Donald Trump found guilty on all counts."

Ar ôl achos barodd chwech wythnos fe ddaeth y dyfarniad yn hwyr neithiwr ein hamser ni.

Dyfarnodd y rheithgor yn unfrydol fod Donald Trump yn euog o 34 cyhuddiad o ffugio cofnodion busnes er mwyn cuddio taliadau i'r actores ffilmiau pornograffig Stormy Daniels.

Am y tro cynta erioed roedd cyn-arlywydd wedi ei ddyfarnu'n droseddwr.

Tra bod ei wrthwynebwyr yn dathlu, lladd ar y system gyfiawnder wnaeth Donald Trump.

"This was a rigged trial by a conflicted judge who's corrupt."

"Nawr bod Donald Trump yn llygaid y gyfraith yn ddihiryn mae hynny'n mynd i orfodi pobl America i bendroni a meddwl unwaith eto a fydd y person yn cael ei ethol i'r Tŷ Gwyn.

"Yr hyn sy'n syfrdanol yw mai Donald Trump yw'r ffefryn.

"Ar un llaw, mae'r penderfyniad hwn yn mynd i gryfhau ei statws e."

Fydd y dyfarniad ddim yn rhwystro Donald Trump rhag bod yn ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn etholiad arlywyddol mis Tachwedd.

Ond ei flaenoriaeth unwaith eto heddiw oedd dadlau, heb unrhyw sail, na gafodd e achos teg.

"It was a rigged trial.

"We wanted a venue change where we could have a fair trial.

"We didn't get it."

"Dw i'n credu bod e 'di cael bai ar gam.

"Falle wna i bleidleisio drosto fe ym mis Tachwedd.

"Dw i ddim yn y lleiafrif sy'n meddwl y ffordd hynny.

"Mi wnaeth gwefan sy'n codi arian at achos Trump fynd yn ddim, crasho.

"Achos yr holl gyfraniadau ariannol oedd yn dod mewn ar ôl y dyfarniad.

"Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae rhyw 67% o'r boblogaeth yn credu bod yr holl beth yn annheg a bod y dyn wedi cael bai ar gam."

Gwrthod hynny'n llwyr wnaeth yr Arlywydd presennol.

"It's wreckless, dangerous and irresponsible for anyone to say this was rigged."

"'Dan ni mewn cyfnod lle mae'r byd democrataidd yn erbyn y byd unbenaethol.

"Pa obaith sydd gan America i feirniadu Xhi yn Tsieina a Putin yn Rwsia os ydy Donald Trump a'r Gweriniaethwyr yn ymosod ar yr un cynsail democrataidd.

"Mae hynny'n ergyd i hygrededd America ac yn ei rhwygo ar wahân hyd yn oed yn fwy."

Mae rhai'n poeni nad yw'r dewis fydd gan Americanwyr ym mis Tachwedd yn ddigon da.

"Dw i'n meddwl bod o'n warthus bod gwlad mor bwysig methu dod fyny efo candidate gwell na hyd yn oed Biden na Trump.

"Mae'n warthus a dyna ydy'r teimlad.

"'Dan ni'n dewis rhwng dau lle does neb yn hapus efo 'run ohonyn nhw."

Mae gan Donald Trump ei gefnogwyr a'i wrthwynebwyr.

Ymateb pawb arall fydd yn penderfynu ai troseddwr fydd yn y Tŷ Gwyn ym mis Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.