Newyddion S4C

Ffermwraig yn pledio'n euog i ymosod ar ddynes yn Llanllyfni

06/06/2024

Ffermwraig yn pledio'n euog i ymosod ar ddynes yn Llanllyfni

Mae dynes wedi pledio'n euog i ymosod ar ddynes ger ei fferm yn Llanllyfni yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd.

Fe ymddangosodd Emma Bennett, 43 oed o Lanllyfni, o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau, wedi ei chyhuddo o ymosod ar ei chymydog, Margaret Jones.

Fe ddangoswyd fideo i'r llys gan yr erlyniad, wedi ei ffilmio ar ffôn symudol mab Ms Jones, yn dangos yr ymosodiad a ddigwyddodd ar 21 Ionawr eleni.

Roedd Bennett wedi ildio ei hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol yn y llys, ac fe ddywedodd wrth y fainc ei bod wedi bod mewn anghydfod oherwydd ffiniau tir gyda'i chymdogion, Margaret Jones a'i mab, Dyfrig, ers dros saith mlynedd.

"Dwi'n derbyn fy mod wedi ymosod ar Ms Jones ar yr achlysur yma, a dyliwn fod wedi gwybod yn well ac wedi ymddwyn fel oedolyn." meddai o'r doc.

Fe gadarnhaodd yr erlynydd, Helen Hall nad oedd gan Bennett unrhyw euogfarnau blaenorol yn ei herbyn, ac fe ddywedodd cadeirydd y fainc wrth Bennet, sy'n gweithio fel amaethydd a waliwr cerrig, nad oedd eisiau ei gweld yn ôl yn y llys eto.

Fe gafodd Bennett ddirwy o £288 a gorchymyn i dalu costau erlyn o £85.
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.