Newyddion S4C

Ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Môn yn agos i frig rhestr gwario ar hysbysebion Meta

07/06/2024
virginia crosbie

Mae ymgeisydd Ceidwadol Ynys Môn ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn agos i frig y rhestr o ymgeiswyr drwy'r DU sydd wedi gwario mwyaf ar hysbysebion platfformau Meta yn yr ymgyrch etholiadol.

Yn ôl gwefan Who Targets Me?, Virginia Crosbie oedd y darpar AS nad oedd yn arweinydd plaid oedd wedi gwario'r pumed mwyaf ar draws y DU ar hysbysebion Meta - sy'n cynnwys Facebook ac Instagram - dros y mis diwethaf.

Ers 1 Mai, mae hi wedi gwario £18,367 ar hysbysebion ar Meta yn unig, yn ôl y wefan.

Carla Denyer, ymgeisydd y Blaid Werdd ar gyfer Canol Bryste, ac Ameet Jogia, ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Hendon yn Llundain, oedd wedi gwario fwyaf ar draws y DU.

Yna roedd yr ymgeiswyr Llafur Mike Tapp sy’n sefyll yn Dover and Deal a Bridget Phillipson yn sefyll yn Houghton and Sunderland South, gyda Virginia Crosbie yn y pumed safle.

Ysgrifennydd Cymru ac ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mynwy, David TC Davies, oedd wedi gwario’r ail fwyaf o ymgeiswyr Ceidwadol Cymru sef £1,038.

Doedd yr un o ymgeiswyr Llafur Cymru yn y 100 uchaf ar gyfer y blaid a oedd wedi eu cynnwys yn yr ystadegau, ond roedd Llafur Cymru wedi gwario £25,549.

£838 oedd y gwariant mwyaf ar Facebook gan un o ymgeiswyr Plaid Cymru, sef gan Ben Lake yng Ngheredigion Preseli, yn ôl Who Targets Me?

Doedd dim gwariant wedi ei gofnodi eto ar gyfer ymgeiswyr y pleidiau eraill ar Ynys Môn, sef Llinos Medi o Blaid Cymru, Ieuan Môn Williams o'r Blaid Lafur, Leena Sarah Farhat o'r Democratiaid Rhyddfrydol, Emmett Jenner o Reform UK, a Martin Schwaller o'r Blaid Werdd.

Roedd Plaid Cymru a Llafur Cymru wedi rhedeg hysbysebion Meta yn hyrwyddo eu hymgeiswyr ar Ynys Môn o gyfrifon canolog, ond gan fod llai na £100 wedi ei wario ar yr hysbysebion rheini nid yw union gyfanswm y gwariant yn hysbys.

O ble mae’r arian wedi dod?

Mae Aelodau o Senedd San Steffan yn cyhoeddi eu buddiannau ariannol yn gyson gyda’r diweddaraf ar 28 Mai.

Mae’n dangos bod Virginia Crosbie wedi derbyn £70,500 mewn rhoddion ers mis Ebrill y llynedd.

Roedd y rhoddwyr yn cynnwys:

  • Patrick Evershed, Llywydd Cymdeithas Ceidwadwyr Dinasoedd Llundain a San Steffan
  • The Cayzer Trust Company Limited, sy’n gwmni sy’n rheoli cyfoeth un o deuluoedd mwyaf cyfoethog y DU
  • The Carlton Club Political Committee, clwb aelodaeth breifat Geidwadol yn Llundain

Roedd y Cayzer Trust hefyd wedi rhoi £5,500 yn anuniongyrchol tuag at yr etholaeth, yn ôl cofnodion rhoddion Virginia Crosbie.

Roedd rhai o hoelion wyth eraill y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi derbyn symiau llai o lawer.

Roedd David TC Davies wedi derbyn £3,000, y Prif Chwip Simon Hart wedi derbyn £27,500 ac Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns wedi derbyn £10,000 yn ystod yr un cyfnod.

Wrth ymateb i Newyddion S4C dywedodd Virginia Crosbie: "Rydw i bob amser yn falch bod pobl yn credu ynof i ac yn y gwaith rwy'n ei wneud ar Ynys Môn i'r fath raddau eu bod yn rhoi arian.

"Mae'r arian a roddwyd dros y blynyddoedd wedi cael ei ddefnyddio'n aml ar gyfer fy nghronfa ymgyrchu ac i helpu ynyswyr ac mae wedi'i gofrestru'n llawn.

"Mae hefyd yn y gorffennol wedi ariannu fy adroddiad blynyddol yn AS felly nid oes unrhyw gost i'r trethdalwr.

"Fel y dywedais erioed, nid wyf yn ymddiheuro am gymryd arian o ffynonellau eraill a'i ddefnyddio ar Ynys Môn i wella bywydau ac i hyrwyddo'r gwaith rwy'n ei wneud."

Doedd dim cofnodion ar gyfer rhoddion i ymgeiswyr eraill Ynys Môn am nad oedden nhw’n ASau yn y Senedd ddiwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.