Newyddion S4C

Vaughan Gething ‘yn brifo brand Llafur Cymru’ wrth iddo barhau ar ôl pleidlais o ddiffyg hyder

06/06/2024

Vaughan Gething ‘yn brifo brand Llafur Cymru’ wrth iddo barhau ar ôl pleidlais o ddiffyg hyder

Mae arbenigwr ar wleidyddiaeth Cymru wedi dweud bod Vaughan Gething yn “brifo brand Llafur Cymru” wrth barhau yn swydd y Prif Weinidog ar ôl colli pleidlais o ddiffyg hyder.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd y bydd y blaid yn meddwl ddwywaith cyn parhau â Vaughan Gething yn arweinydd yn yr hir dymor.

Fe gollodd Mr Gething y bleidlais yn y Senedd ddydd Mercher o 29 pleidlais i 27, gyda dau o aelodau Llafur yn absennol.

Dyna oedd y bleidlais gyntaf o’r fath ers dyddiau cynnar datganoli.

Ond mae Vaughan Gething wedi mynnu na fydd yn ymddiswyddo wrth iddo deithio i Normandi yng ngogledd Ffrainc ddydd Iau i nodi 80 mlynedd ers D-Day.

Wedi'r bleidlais, dywedodd Mr Gething: "Dydw i erioed fel gweinidog wedi gwneud dewis er fy mudd fy hun, nag er mwyn elw ariannol."

Ond dywedodd Richard Wyn Jones bod polau piniwn yn dangos nad oedd Vaughan Gething bellach yn boblogaidd gyda’r cyhoedd.

“Yn y pen draw, os nad yw'r cyhoedd yn ei hoffi ac os yw'r cyhoedd yn cosbi Llafur Cymru mewn polau piniwn ar lefel y Senedd, yna bydd y blaid rwy'n amau yn amharod i barhau ag o,” meddai wrth Radio Wales.

“Mae’r saga hon yn niweidio brand Llafur Cymru ac mae'r brand hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn, iawn.”

Ychwanegodd: “Yr hyn y mae’r cyhoedd yn ei feddwl sy’n mynd i fod yn allweddol yn y pen draw, yn hyn oll.

“Safbwynt Vaughan Gething a'i gefnogwyr yw bod yr holl ddadl hon, mewn ffordd, wedi'i chreu, mae'r cyfan yn stori swigen Bae Caerdydd.

“Ond mae’r cyhoedd wedi cymryd diddordeb yn hyn a dydyn nhw ddim yn hapus.

“Mae pobl yn gwybod pwy yw Vaughan Gething - mae'n llawer mwy gweladwy nag yr oedd Mark Drakeford ar yr un pryd.

“Ond, ac mae'n gas gen i fod yn blwmp ac yn blaen am hyn, nid yw'n ymddangos bod pobl yn hoffi'r hyn y maent yn ei weld.

“Dim ond Rishi Sunak sy'n llai poblogaidd ymhlith etholwyr Cymru ar hyn o bryd na Vaughan Gething."

‘Cwestiynau difrifol’

Mae Keir Starmer yn parhau i gefnogi Vaughan Gething er iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd, yn ôl un o weinidogion cysgodol Plaid Lafur y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Stephen Kinnock sy’n sefyll unwaith eto yn sedd Aberafan bod arweinydd ei blaid Keir Starmer yn cefnogi Prif Weinidog Cymru “yn hollol”.

“Mae Vaughan yn ddyn o anrhydedd a'r cyfan yw hyn yw stỳnt gan yr wrthblaid, dan arweiniad y Ceidwadwyr, gyda chymorth a chefnogaeth Plaid Cymru,” meddai.

Ond mae’r gwrthbleidiau wedi galw ar Vaughan Gething i gamu o’r neilltu wedi iddo golli’r bleidlais ddydd Mercher.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies: "Fe wnaeth Gething a'r Blaid Lafur gymryd arian gan y rhoddwr a wnaeth achosi'r anhrefn yma.

"Nid am Vaughan Gething yn unig y mae hyn. Mae yna gwestiynau difrifol ar gyfer Syr Keir Starmer hefyd."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS: "Mae'r Senedd wedi siarad ar ran pobl Cymru - nid oes gennym hyder ym Mhrif Weinidog Llafur Cymru.

"Gan na wnaeth pob aelod Llafur ei gefnogi yn y bleidlais heno, mae'n rhaid i Vaughan Gething wneud y peth anrhydeddus ac ymddiswyddo i sicrhau nad oes unrhyw ansefydlogrwydd pellach yn rhengoedd Llywodraeth Lafur Cymru."

Ychwanegodd Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae’r Senedd wedi siarad a nawr rhaid i Vaughan Gething fynd. Byddai unrhyw ymgais i ddal gafael ar rym yn mynd yn groes i normau sefydledig ein democratiaeth seneddol.

"Heb fandad y Senedd, does gan y Prif Weinidog ddim hawl i aros yn ei swydd, mae democratiaeth Cymru wedi cael dweud ei dweud a nawr mae’n rhaid iddo fynd.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.