Wrecsam: Dyn wedi ei arestio ac un arall yn ysbyty gydag anafiadau difrifol
Mae dyn wedi ei arestio a dyn arall wedi’i gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi adroddiad o ymosodiad yn Wrecsam, meddai’r heddlu.
Ymatebodd y gwasanaethau brys i adroddiad o ymosodiad mewn eiddo yn ardal Acton y ddinas toc wedi 14.45 ddydd Mercher.
Cafodd dyn 19 oed ei arestio wedi hynny ar amheuaeth o glwyfo a'i gadw yn y ddalfa, meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd y dyn arall, sy'n 27 oed, ei gludo i ysbyty yn Stoke.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dros Dro Claire Roberts: “Roedd hwn yn ddigwyddiad unigol sydd bellach wedi dod i ben, ac nid oes gennym unrhyw bryderon sy’n parhau am ddiogelwch y gymuned.
“Diolch i drigolion am eu cefnogaeth tra bu’r gwasanaethau brys yn delio â’r digwyddiad sydd bellach wedi dod i ben.”