Newyddion S4C

'Siom': Diffoddwyr tân yng Nghymru wedi eu 'gadael i lawr' medd ymchwiliad

06/06/2024
Llun gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Mae diffoddwyr tân yng Nghymru wedi cael eu “gadael i lawr” gan y bobl sy’n gyfrifol am lywodraethu gwasanaethau tân ac achub, yn ôl ymchwiliad un o bwyllgorau’r Senedd. 

Clywodd Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd dystiolaeth nad yw Awdurdodau Tân yn gallu gwneud eu gwaith yn iawn, a bod rhai aelodau’r friged heb y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i wneud eu swyddi.

Mae adroddiad Seinio'r Larwm, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, hefyd yn trafod y pryderon sydd wedi dod i’r amlwg yn dilyn penodiad Stuart Millington fel Prif Swyddog Tân dros dro yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. 

Ac yn ôl aelodau’r Pwyllgor, roedd “diffyg eglurder” yn ogystal a “naws amddiffynol” a gafwyd mewn ymateb i’r pryderon rheiny wedi peri risg o atgyfnerthu’r canfyddiadau negyddol am rai uwch reolwyr.

Mae’r Pwyllgor bellach wedi galw ar Lywodraeth Cymru am “gamau radical” er mwyn mynd i’r afael ag effeithiolrwydd strwythur llywodraethu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. 

Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae staff y gwasanaeth tân yng Nghymru yn cael eu gadael i lawr gan yr arweinwyr sy’n gyfrifol am lywodraethu’r gwasanaethau tân ac achub ac mae angen newid brys i adfer ffydd fel bod pob aelod o staff yn teimlo’n ddiogel yn y gweithle.   

“Cawsom ein siomi o glywed faint o bobl ar frig y system lywodraethu bresennol nad oedd i’w gweld yn ymwybodol o ba mor ddifrifol yw’r broblem. 

“Nid yw dim newid yn opsiwn,” meddai.

'Gwendidau'

Lansiodd y Pwyllgor yr ymchwiliad i lywodraethu gwasanaethau tân ac achub yn dilyn canfyddiadau brawychus wedi adolygiad ar ddiwylliant y wasanaeth dan arweiniad Fenella Morris CB, ac fe gafodd adolygiad annibynnol ei gynnal i Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi hynny hefyd.

Fel rhan o’r adolygiad, dywedodd Cymdeithas y Swyddogion Tân wrth y Pwyllgor nad oedd gan aelodau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru y sgiliau sy’n ofynnol er mwyn darparu’r lefel o oruchwyliaeth, craffu a her angenrheidiol wrth lywodraethu, a bod llawer o aelodau’r Awdurdod yn gwneud ychydig iawn o gyfraniad, “os o gwbl” yn ystod cyfarfodydd a’u bod yn ddryslyd o ran cynnwys papurau. 

Roedd aelodau’r Pwyllgor hefyd wedi clywed am bryderon ynglyn a phenodiad Comisiynwyr De Cymru o Stuart Millington yn Brif Swyddog Tân dros dro yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn yr adolygiad diwylliant – oedd yn cynnwys honiadau o gamwymddwyn oedd ynghlwm â bwlio.

Ychwanegodd nad oedd negeseuon a gafodd eu hanfon gan staff at aelodau’r Pwyllgor wedi bod yn rhan o’r dystiolaeth ffurfiol a gafodd eu hystried yn ystod yr ymchwiliad – ond eu bod wedi atgyfnerthu pryderon  bod hyder staff yn y rheolwyr wedi’i danseilio. 

Dywedodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r ffordd y mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gweithio, gan gynnwys lleihau eu maint cyffredinol, ac annog pobl sydd â gwybodaeth ac arbenigedd allanol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gael eu cyfethol i bob Awdurdod.

Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Chomisiynwyr Tân i ddod ag unigolion ffres â sgiliau a phrofiadau o’r tu allan i’r sector yng Nghymru i’r rolau allweddol sy’n gyfrifol am ddiwylliant sefydliadol.

Dylai hynny ddechrau gyda’r broses recriwtio sydd ar ddod ar gyfer Prif Swyddog Tân newydd De Cymru, medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.