Newyddion S4C

Farrel O’Shea: Teyrngedau i'r syrffiwr o Abersoch fu farw yn Ffrainc

05/06/2024
Farrel O'shea

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ŵr o Abersoch a fu farw yn Ffrainc dros y penwythnos.

Bu farw Farrel O’Shea, 60 oed, ar fore Sul 2 Mehefin, wrth “wneud yr hyn yr oedd yn ei garu” yn La Palme, yn ne Ffrainc.

Roedd Mr O’Shea yn adnabyddus yn lleol fel perchennog busnes ac am ei lwyddiannau ym myd syrffio a hwylfyrddio.

Roedd wedi cofnodi’r record Brydeinig am y cyflymder uchaf wrth hwylfyrddio, ac wedi creu sawl techneg newydd yn y gamp.

Roedd Mr O’Shea hefyd wedi sefydlu’r brand syrffio a hwylfyrddio O’Shea, ym Mhwllheli, a roedd yn weithgar yn nyddiau cynnar gwyl "Wakestock".

Wrth roi teyrnged, fe ddywedodd y cwmni O’Shea ei bod yn un o'r ‘bobl dda mewn bywyd’.

Image
Farrel O'Shea
Farrel O'Shea

“Gyda chalonnau trwm a thristwch aruthrol, rydym yn eich hysbysebu am farwolaeth Farrel O’Shea. Bu farw ar draeth yn Ffrainc, wrth wneud yr hyn yr oedd yn ei garu, ar fore Sul 2 Mehefin.

“Roedd Farrel yn un o’r bobl dda mewn bywyd, yn berson chwedlonol, oedd wedi ei garu gan lot fawr o bobl, a fydd yn ein calonnau am byth.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar am y negeseuon o gariad a chefnogaeth.”

Mewn teyrnged, dywedodd busnes padl fyrddio SUP North Wales: “Roedd yn "lejend" ym myd hwylfyrddio ac yn berchennog ar fyrddau O’Shea, a hefyd yn un o’r bobl fwyaf diymhongar i mi erioed i gwrdd gyda.

“Colled drist iawn i’r byd hwylfyrddio a phadl fyrddio. Roedd wedi gwneud popeth, o ddal recordiau’r byd i glymu injan jet i badl fwrdd mawr. Mae fy nghydymdeimladau dwysaf gyda’i deulu, ei ffrindiau a’r criw yn O’Shea.”

Lluniau: O'Shea/Facebook

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.