Newid pum ysgol gynradd yng Ngheredigion i fod yn rhai cyfrwng Cymraeg
Mae aelodau Cabinet Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo cynllun i newid pum ysgol gynradd yn y sir i fod yn rhai cyfrwng Cymraeg.
Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno yn y Cyfnod Sylfaen yn y pum ysgol dan sylw: Ysgol Gynradd Comins Coch, Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant, Ysgol Gynradd Llwyn-yr-Eos, Ysgol Gynradd Plascrug ac Ysgol Gynradd Cei Newydd.
Ar hyn o bryd, mae'r ysgolion i gyd yn rhai cyfrwng Saesneg yn bennaf.
Ond mae nifer o bobl wedi gwrthwynebu'r cynllun.
Fe dderbyniodd Ysgol Gynradd Plascrug yn Aberystwyth 23 o wrthwynebiadau.
Dywedodd un gwrthwynebydd fod gan y cynllun “gymhelliant gwleidyddol”.
Ychwanegodd un arall y byddai’r newid yn cael “effaith negyddol ar ffoaduriaid”.
Derbyniodd Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant yn Aberystwyth bedwar gwrthwynebiad.
Roedd y pryderon yn cynnwys honiadau bod yr ymgynghoriad yn ddiffygiol, ac y byddai'r newid yn lleihau amrywiaeth y boblogaeth leol ac yn creu anawsterau i rieni uniaith Saesneg.
Cafodd yr un pryderon eu codi am yr ysgolion eraill yn Aberystwyth, Ysgol Gynradd Comins Coch ac Ysgol Gynradd Llwyn-yr-Eos.
Fodd bynnag, nid oedd Ysgol Gynradd Cei Newydd wedi derbyn unrhyw wrthwynebiadau ffurfiol.
Daw'r newid yn sgil ymgais Llywodraeth Cymru i weithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32.
Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yn cynnwys saith cam i gryfhau’r Gymraeg.
Un o’r rheiny yw creu mwy o gyfleoedd i blant o bob oed i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn bennaf.