Newyddion S4C

Beth sydd angen i Gymru ei wneud i gyrraedd UEFA Euro 2025?

05/06/2024
Wcrain v Cymru 2024

Mae tîm merched Cymru wedi cael dechreuad calonogol i’w ymgyrch i gyrraedd UEFA Euro 2025 yn y Swistir, gyda dwy fuddugoliaeth a dwy gêm gyfartal yn eu pedair gêm agoriadol.

Gyda dwy gêm yn weddill yn rownd y grwpiau, mae Cymru yn yr ail safle, un pwynt y tu ôl i Croatia.

Bydd tîm Rhian Wilkinson yn herio Croatia a Kosovo yn eu gemau olaf yn y grŵp fis nesaf.

Ond ni fydd enillwyr y grŵp B4 yn cymhwyso ar gyfer Euro 2025 yn syth – felly beth sydd angen i Gymru ei wneud i gyrraedd y rowndiau terfynol haf nesaf?

Y llwybr i gyrraedd UEFA Euro 2025

Bydd 15 tîm yn cystadlu yn y bencampwriaeth, gan gynnwys y tîm cartref, y Swistir, sydd yn ennill eu lle yn awtomatig.

Mae’r broses ragbrofol wedi rhannu holl dimau Ewrop i mewn i dair haen – neu gynghrair: A, B a C. Yna mae pob cynghrair wedi ei rhannu mewn i grwpiau o bedwar tîm.

Wedi i bob tîm wynebu ei gilydd dwywaith yn rownd y grŵp, bydd y ddau dîm uchaf ym mhob grŵp yng nghynghrair A yn ennill eu lle yn Euro 2025. Bydd gweddill y timoedd yng nghynghrair A yn cael ail gyfle i gymhwyso drwy’r gemau ail gyfle.

Ond mae Cymru yng nghynghrair B, yng ngrŵp B4. Yn wahanol i gynghrair A, nid yw enillwyr grwpiau cynghrair B yn cael lle awtomatig yn Euro 2025. Yn hytrach, mae’r tri tîm uchaf ym mhob grŵp yn mynd drwodd i’r gemau ail gyfle, er mwyn parhau yn y frwydr i gyrraedd yr Euros.

O safbwynt cynghrair C, bydd enillwyr bob grŵp yn ogystal â’r tri tîm ail safle â’r record orau, yn ymuno â’r timoedd yn y gemau ail gyfle.

Image
Ffion Morgan
Ffion Morgan

Y gemau ail gyfle

Bydd 28 tîm yn cystadlu yn y gemau ail gyfle, gyda dwy rownd o gemau yn cael eu chwarae dros ddau gymal – gyda’r saith tîm buddugol yn cyrraedd Euro 2025.

Bydd y timoedd yn canfod eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle pan fydd yr enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ar 19 Gorffennaf. Bydd y timoedd â’r record orau yn rownd y grŵp yn derbyn safle mwy ffafriol yn y broses, ac yn fwy tebygol o gwrdd â thîm â record salach.

Bydd rownd gyntaf o gemau ail gyfle yn cael eu cynnal 23-29 Hydref, tra bydd yr enillwyr y gemau yna yn mynd ymlaen i gystadlu yn ail rownd y gemau ail gyfle, 27 Tachwedd i 3 Rhagfyr.

Felly er mwyn i Gymru gyrraedd y Swistir, bydd yn rhaid gorffen yn y tri safle uchaf o’u grŵp, cyn ennill dwy rownd o'r gemau ail gyfle yn ystod yr Hydref a’r Gaeaf.

Os bydden nhw’n llwyddo i wneud hynny, bydden nhw wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol am y tro cyntaf yn hanes y tîm – felly mae digon dal yn y fantol i’r Dreigiau.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.