Newyddion S4C

Caerdydd: Arestio 16 yn dilyn protest mewn gorsaf heddlu

05/06/2024
Protest o blaid Palesteina.jpg

Cafodd 16 o bobl eu harestio ar amheuaeth o ymddygiad treisgar mewn gorsaf heddlu yn dilyn protest o blaid Palesteina yng Nghaerdydd.

Roedd y protestwyr wedi cael eu harestio yn "ardal desg flaen" gorsaf heddlu Bae Caerdydd nos Lun, yn ôl Heddlu De Cymru.

Daeth y brotest oriau yn unig ar ôl i ddyn gael ei arestio mewn protest arall o blaid yr un achos yng nghanol y ddinas.

Yn ôl yr heddlu, roedd rhwng 50 a 60 o brotestwyr wedi ymgynnull ar Boulevard de Nantes, ger Plas y Parc.

Cafodd y dyn 36 oed o Abertawe ei arestio ar amheuaeth o rwystro'r briffordd yn fwriadol a chynllwynio i greu trafferth cyhoeddus, meddai'r llu.

Mae'r sawl a gafodd ei arestio bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Y rhyfel

Dywedodd y grŵp ymgyrchu Stopio'r Rhyfel Caerdydd eu bod yn protestio yn erbyn ymosodiadau Israel ar ddinas Rafah yn Gaza.

Yn ôl yr elusen plant UNICEF, mae tua 1.2 miliwn o Balesteiniaid - mwy na hanner poblogaeth Gaza - yn Rafah a'r cyffiniau. 

Fe wnaeth y mwyafrif ohonyn nhw ffoi o'u cartrefi mewn ardaloedd eraill yn Gaza ar ddechrau'r rhyfel ar 7 Hydref.

Llun: Mitch McGivern

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.