Newyddion S4C

Cyn filwr yn ei ddagrau wrth ddychwelyd i draeth D-Day

05/06/2024
Donald Jones

Roedd cyn filwr o ogledd Cymru yn ei ddagrau wrth iddo ddychwelyd i draeth lle'r oedd wedi ymladd fel rhan o ymgyrch D-Day 80 mlynedd yn ôl. 

Fe wnaeth Donald Jones o’r Wyddgrug yn Sir Fflint dychwelyd i’r traeth yn Normandi, Ffrainc, gyda dwsinau o gyn filwyr eraill ddydd Mawrth.

Roedden nhw wedi cael eu cludo yno gyda’r Lleng Prydeinig Brenhinol (Royal British Legion) er mwyn tystio i'r diwrnod hanesyddol. 

Er bod llawer o’r cyn filwyr mewn hwyliau da wrth iddyn nhw ddod at ei gilydd, roedd Mr Jones yn ei ddagrau wrth iddo gofio’r diwrnod hwnnw. 

Ag yntau bellach yn 99 oed, mi oedd yn rhan o’r ymosodiad ar y traeth yn Normandi rhwng Ouistreham a Saint-Aubin-sur-Mer a gafodd ei alw gan y fyddin yn Sword Beach. Roedd Sword Beach yn un o bum traeth a gafodd eu targedu ar 6 Mehefin, 1944.

Image
Donald Jones
Donald Jones

Glaniodd tua 29,000 o ddynion ar y traeth hwnnw erbyn diwedd y dydd, ac roedd tua 630 wedi cael eu hanafu.

Roedd nifer o drigolion lleol wedi mynd at Mr Jones er mwyn diolch am ei ymdrechion, ac fe achosodd hynny iddo droi'n emosiynol.

Eisteddodd yn ei gadair olwyn yn ei ddagrau gan edrych allan at y môr. 

Roedd Corporal Aaron Stone ymhlith aelodau presennol y fyddin a deithiodd gyda'r cyn filwyr i Normandi, a dywedodd fod yna “deimladau cymysg” yno.

Dywedodd Corporal Paul Squires bod trafod profiadau’r cyn filwyr gyda nhw wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n “emosiynol” iawn. 

“Pan gyrhaeddodd y traeth am y tro cyntaf gofynnais sut deimlad oedd bod yn ôl, ac yn gyflym iawn fe stopiodd a myfyrio am funud," meddai.

“Roedd ton aruthrol o emosiynau wedi ei daro, oedd yn gwbl ddealladwy."

Image
Donald Jones

Lluniau: Jordan Pettitt/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.