Newyddion S4C

Mark Drakeford yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o 'gefnu' ar un o'i haddewidion

04/06/2024

Mark Drakeford yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o 'gefnu' ar un o'i haddewidion

Mae'r cyn Brif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhuddo llywodraeth Lafur Cymru o gefnu ar un o'i haddewidion ei hun.

Roedd yn ymateb i benderfyniad y llywodraeth y bu’n ei arwain nes 11 wythnos yn ôl i gefnu ar gynlluniau i ddiwygio'r flwyddyn ysgol.

Dywedodd Mark Drakeford y bydd y penderfyniad yn “niweidio” dyfodol plant Cymru a bod dadleuon Llywodraeth Cymru yn erbyn y newid yn “absẃrd”.

Nod cynlluniau blaenorol Llywodraeth Cymru oedd cwtogi wythnos oddi ar wyliau'r haf, gan ychwanegu wythnos at wyliau hanner tymor yr hydref.  

Roedd disgwyl i’r newidiadau ddod i rym yn 2025, ond bellach does yna ddim disgwyl iddyn nhw gael eu gweithredu hyd nes y tymor seneddol nesaf. 

Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle, pwrpas yr oedi oedd sicrhau bod gan athrawon a staff eraill “ddigonedd o amser” i gyflwyno diwygiadau eraill. 

Mae'r rhain yn cynnwys cwricwlwm newydd i Gymru yn ogystal ag ailwampio’r cynllun ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

Ond wrth siarad yn y Senedd brynhawn Mawrth, dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn hapus o gwbl gyda'r newidiad.

“Gadewch i ni fod yn glir mai’r hyn yr ydym wedi’i glywed y prynhawn yma yw cefnu ar ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf,” meddai.

“Ac ni ddylai'r gweinidog geisio cuddio y tu ôl i semanteg wrth ddweud mai ymrwymiad oedd hwn i archwilio diwygio'r diwrnod ysgol, oherwydd mae hi'n gwybod yn iawn fod ei rhagflaenwyr wedi cyhoeddi cynllunnid archwiliad, ond cynllun-i'w roi ar waith.

“Ni fydd hynny’n digwydd yn awr yn ystod y tymor Senedd hwn. 

“A beth oedd y cynllun hwnnw, Lywydd? Byddai wedi symud wythnos - un wythnos - o wyliau ysgol yn yr haf i hanner tymor yr hydref.

“Ni allai neb, yn fy marn i, honni bod y Llywodraeth yn rhuthro ar ei phen i lawr ar ryw lwybr radical, ond roedd yn fan cychwyn. 

“Roedd yn ddechrau ar daith a fyddai wedi gwella’r canlyniadau i blant yng Nghymru. 

“Rwy’n gresynu at y difrod gwleidyddol. Rwy’n gresynu at y niwed i enw da a fydd yn cael ei wneud i Gymru, ar adeg pan oedd rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn edrych ar Gymru ac yn pwyntio atom fel enghraifft o’r hyn y gallai Llywodraeth flaengar ei wneud. 

“Ond yr hyn yr wyf yn ei wir ddifaru yw’r niwed a wneir i gyfleoedd bywyd y plant sydd wrth wraidd y polisi hwn.”

Ychwanegodd: “Pan fydd y plant hynny’n mynd i ffwrdd ym mis Gorffennaf, yn y chwe wythnos hynny, ni fyddant yn gweld llyfr, ni fyddant yn cael cyfle i chwarae mewn ffordd sy’n caniatáu iddynt werthfawrogi’r hyn y gall mathemateg ei wneud iddynt yn eu bywydau.

“A phan fyddant yn dod yn ôl ym mis Medi, mae'r ysgol yn dechrau eto. 

“Mae’r syniad nad oes unrhyw golli dysgu ym mywydau’r plant hynny yn gwbl hurt.”

‘Gresynu’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle ei bod hi’n “gwerthfawrogi” cyfraniad Mark Drakeford ond yn gwrthod “naws ei eiriau”.

“Rydw i’n gresynu at naws rhai o’r sylwadau hynny,” meddai.

“Dwi’n teimlo eu bod yn bwrw amheuaeth ar fy ymrwymiad fy hun i blant a phobl ifanc, sef yr unig reswm yr wyf yn sefyll yn y swydd hon.

“A chyda pharch, Mark, rwy'n meddwl fy mod wedi nodi'n glir iawn fy rhesymau dros y penderfyniad hwn heddiw.

“Mae’n ymwneud â gwrando ar ymgynghoriad. Does dim modd cael ymgynghoriad ac yna anwybyddu'r ymgynghoriad hwnnw.

“Ni fyddai hynny’n dderbyniol.”

Roedd y cynlluniau gwreiddiol i newid strwythur gwyliau ysgolion wedi “hollti barn,” esboniodd Ms Neagle. 

“Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni barhau i wrando ac ymgysylltu ag ysgolion, athrawon, undebau yn ogystal â phlant, pobl ifanc a rhieni ynglŷn â’r ffordd orau i ni gyflwyno unrhyw newidiadau yn y dyfodol,” meddai. 

Fe ddaw’r tro pedol gan y llywodraeth wedi’r cyfnod ymgynghori mwyaf ar addysg, a ddenodd dros 16,000 o ymatebion.

'Croesawu'

Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan rai undebau athrawon, gyda'r cynrychiolwyr hynny'n dweud nad oes modd “rhuthro” newid o’r fath. 

Dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, Eithne Hughes ei bod yn “falch” o glywed y cyhoeddiad. 

“Fel y gwnaeth yr ymgynghoriad brofi, ac fel roedden ni eisoes yn gwybod, does dim galwad unfrydol gan rieni nac athrawon i newid gwyliau’r ysgol,” meddai. 

Dywedodd ysgrifennydd cenedlaethol Undeb yr NAHT, Laura Doel bod y corff wedi gwrthwynebu’r cynlluniau “ers y dechrau.”

Dywedodd bod angen i benderfyniadau ar y fath raddfa fod yn seiliedig ar dystiolaeth “gref iawn… ond ni chafodd tystiolaeth o’r fath” eu cyflwyno, meddai. 

Ac yn ôl un o swyddogion undeb athrawon NASUWT, Neil Butler, doedd athrawon erioed wedi galw am newidiadau i wyliau’r ysgol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.