Cyhoeddi mwy o artistiaid Glastonbury eleni
Mae rhagor o artistiaid wedi eu hychwanegu i raglen ŵyl Glastonbury eleni, wrth i drefnwyr gyhoeddi’r lein-yp yn llawn.
Mae bandiau James, The Zutons, The Staves a Seasick Steve ymhlith yr enwau newydd sydd wedi eu hychwanegu i raglen yr ŵyl
Bydden nhw’n ymuno â’r artistiaid fydd yn perfformio y prif lwyfan, y llwyfan pyramid, sef Dua Lipa, Coldplay a SZA.
Bydd Shania Twain yn perfformio ar brynhawn dydd Sul, tra bydd y seren o’r 1980au, Cyndi Lauper, yn perfformio yn yr ŵyl am y tro cyntaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/glastonbury/status/1797916625431388424
Fe wnaeth tocynnau i'r ŵyl eu werthu allan fis Hydref.
Bydd giatiau’r ŵyl yn agor ar ddydd Mercher 26 Mehefin.
Llun: Dua Lipa, sydd yn cloi'r arlwy yn Glastonbury ar nos Wener yr ŵyl (PA)