Newyddion S4C

Y Ceidwadwyr yn addo lleihau'r nifer o fisas sydd ar gael i ymfudwyr

04/06/2024
Rishi Sunak

Byddai nifer y fisas sydd ar gael i ymfudwyr yn cael ei leihau bob blwyddyn o dan lywodraeth Geidwadol newydd, yn ôl y Prif Weinidog.

Dywedodd Rishi Sunak y byddai ASau yn cael pleidleisio ar gynigion blynyddol y Llywodraeth sydd â'r nod o leihau nifer yr ymfudwyr yn rheolaidd.

Byddai’r cynigion yn seiliedig ar argymhellion gan y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo (MAC) arbenigol, meddai.

Nid yw Mr Sunak wedi crybwyll unrhyw ffigyrau ar gyfer cap posib.

Ond dywedodd mai'r Blaid Geidwadol yw'r unig blaid sy'n fodlon cymryd “camau beiddgar i leihau mewnfudo”.

Mae Ysgrifennydd Cartref y Blaid Lafur, Yvette Cooper, wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o “ail-wampio cyhoeddiadau sydd eisoes wedi methu”.

Daw ar ôl i Arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, ddweud yn y Sun on Sunday y “bydd llywodraeth Lafur y dyfodol yn lleihau mudo net”.

Mewn ymateb, mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi cyhuddo Syr Keir o fod mewn “brwydr sinigaidd” gyda’r Ceidwadwyr dros “pwy all ymddangos yn llymach ar fewnfudo”.

Nid yw'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud sylw eto.

'Camau pellach'

Dywedodd Mr Sunak y byddai rhoi'r penderfyniad yn nwylo ASau yn rhoi hyder i bleidleiswyr bod eu barn yn cael ei hadlewyrchu.

“Mae'r cynllun yn gweithio ond mae lefelau mudo yn dal yn rhy uchel, felly rydyn ni'n mynd ymhellach,” meddai.

Ychwanegodd y byddai Llafur yn “gwneud y DU yn fagnet byd-eang i fewnfudwyr anghyfreithlon” gan awgrymu nad oes unrhyw gynllun ganddyn nhw.

“Y Ceidwadwyr yw’r unig blaid sy’n fodlon cymryd y camau beiddgar i leihau ffigurau mewnfudo,” meddai.

Byddai'r cap yn berthnasol i fisas gweithwyr a theuluoedd a byddai'n eithrio llwybrau gwaith dros dro, fel Gweithwyr Amaethyddol Tymhorol.

Fodd bynnag, dyma fyddai’r bedwaredd ymgais ar gap o’r fath.

Mae llywodraethau Ceidwadol olynol wedi ceisio cyfyngu ar fisas o dan Theresa May, David Cameron a Rishi Sunak.

Ymateb y pleidiau

Dywedodd Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, Yvette Cooper: “Mae hwn yn gyhoeddiad diystyr gan blaid Geidwadol sydd wedi treblu ymfudo net ers yr etholiad diwethaf er gwaethaf addo dod ag ef i lawr.

“Y cyfan maen nhw’n ei wneud nawr yw ailwampio cyhoeddiadau a fethwyd gan David Cameron a Theresa May, tra’n gwneud dim i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau a’u methiannau yn yr economi a’r system fewnfudo sydd wedi gwthio mudo net i fyny.”

Ychwanegodd y byddai cynllun Llafur i ddod â mudo net i lawr yn cysylltu’r system fewnfudo â hyfforddiant gorfodol newydd a chynlluniau gweithlu ar gyfer gweithwyr Prydain, ac yn atal cyflogwyr twyllodrus rhag cyflogi o dramor.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: “Mae Plaid Cymru eisiau system fewnfudo sy’n gweithio i Gymru. 

“Dylid datganoli polisi mudo er mwyn creu system fisa i Gymru a Gwasanaeth Cynghori ar Ymfudo i Gymru i lenwi bylchau a phrinder sgiliau. Byddai hyn yn ein galluogi i barhau i fod yn wlad allblyg sy’n ddeniadol ar gyfer busnes ac ymchwil ac arloesi, ac sy’n blaenoriaethu ein hanghenion fel cenedl.”

Mae disgwyl i Mr Sunak fynd benben ag Arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, ddydd Mawrth yn y ddadl deledu gyntaf o'r etholiad cyffredinol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.