Rhaid i Gymru fod yn fwy creadigol yn erbyn Wcráin, medd Carrie Jones
Rhaid i Gymru fod yn fwy creadigol yn erbyn Wcráin, medd Carrie Jones
Bydd yn rhaid i dîm pêl droed merched Cymru fod yn fwy creadigol er mwyn torri drwy amddiffyn ‘ystyfnig’ Wcráin nos Fawrth, yn ôl yr asgellwraig Carrie Jones.
Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd am yr eildro mewn pum niwrnod nos Fawrth, a hynny yn Grodzisk Wielkopolski yng Ngwlad Pwyl. Dyma gartref mabwysiedig tîm Wcráin wrth i’r rhyfel gyda Rwsia barhau.
Dan arweiniad y rheolwr newydd, Rhian Wilkinson, mae Cymru ar frig eu grŵp yn rownd ragbrofol UEFA Euro 2025 wedi tair gêm.
Ar ôl buddugoliaethau swmpus yn erbyn Kosovo a Croatia fis Ebrill, roedd rhwystredigaeth ymhlith carfan Cymru wrth i Wcráin lwyddo i sicrhau gêm gyfartal ym Mharc y Scarlets nos Wener.
Cic o’r smotyn gan Kayleigh Barton yn y 63ain munud wnaeth sicrhau pwynt i’r Cymry ar ôl i’r ymwelwyr fynd ar y blaen ar ddechrau'r hanner cyntaf.
Fe wnaeth y cochion wastraffu sawl cyfle da i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Yn ôl Carrie Jones mae'r garfan yn “gyffrous” i gael ail gyfle i hawlio triphwynt yn erbyn Wcráin.
'Creadigol'
“Maen nhw’n stubborn iawn yn eu low block nhw, efallai bod ni’n gorfod bod yn fwy creadigol yng nghanol y cae,” meddai chwaraewr Bristol City, sydd yn dod o’r Drenewydd.
“Da ni’n gwybod lle naethon ni fynd yn anghywir, efallai, ar adegau. Da ni ‘di dysgu o’r gêm a ni’n gyffrous rŵan.
“Da ni i gyd yn gwybod be, fel tîm, ni’n gallu cyrraedd a ble ‘dan ni eisiau cyrraedd.
“Ond pob camp da ni’n cyrraedd da ni’n cael dwy gêm, so ni’n gorfod cymryd e gêm am gêm.”
Amddiffynnwr Manchester United, Hayley Ladd, sydd wedi ei henwi’n gapten ar y tîm ar gyfer y gêm. Dyma'r pedwerydd capten mae Rhian Wilkinson wedi'i ddewis ers cael ei phenodi’n rheolwraig fis Chwefror.
Mae chwaraewr canol cae Caerlŷr, Josie Green, wedi tynnu allan o’r garfan gydag anaf, tra bod y gôl-geidwad Laura O’Sullivan wedi gadael oherwydd rhesymau personol.
Bydd y gic gyntaf yn y Stadiwm Rodan-Groklin am 19:00. Bydd uchafbwyntiau yn cael eu dangos ar S4C am 22:00.