Cyn-swyddog carchar yn pledio'n euog i droseddau yn ymwneud â chyffuriau
Mae menyw 30 oed wedi pledio’n euog i droseddau yn ymwneud â chyffuriau wedi iddi gael ei harestio tra roedd yn gweithio fel swyddog yng Ngharchar y Parc, ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fe gafodd Jodie Lee Beer o Lanhari, Rhondda Cynon Taf, ei harestio ym maes parcio'r carchar tra oedd yn gweithio fel swyddog yno, ym mis Chwefror 2020.
Clywodd y llys fod Ms Beer wedi cuddio cyffuriau a oedd yn ei meddiant.
Cafodd Ms Beer ei chyhuddo o gamymddwyn wrth weithredu fel swyddog cyhoeddus, yn ogystal â bod â chyffuriau dosbarth A a dosbarth C yn ei meddiant, gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Penderfynodd Ms Beer ymddiswyddo wedi’r cyhuddiadau.
Plediodd yn euog i droseddau yn gysylltiedig â chyffuriau yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.
Cafodd ymchwiliad yr heddlu ei arwain gan uned Tarian, sef uned arbenigol de Cymru sydd wedi’i gefnogi gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Meadows, o Tarian: “Mae’r mwyafrif llethol o staff carchardai yn cyflawni eu dyletswyddau i’r safonau uchaf.
“Ni ddylai ymddygiad anghyfreithlon y lleiafrif amharu ar ymdrechion ac ymroddiad y mwyafrif,” meddai.
Dywedodd y byddai’n parhau i fynd i’r afael â throseddau oddi mewn i’r carchar, a’r rheiny sy’n bygwth diogelwch carchardai'r de.
Carchar yn 'cael ei redeg yn dda'
Mae Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn y penawdau'n ddiweddar ar ôl i 10 o garcharorion farw yno mewn cwta dri mis.
Ganol fis Mai, dywedodd y Gweinidog Carchardai, Edward Argar, bod pedwar o'r naw marwolaeth ddiweddar yn y Parc - sydd bellach wedi cynyddu i 10 - yn ymwneud â chyffuriau.
Ond dywedodd bod y carchar yn "cael ei redeg yn dda"
Daw hyn wedi i'r AS Ceidwadol Stephen Crabb ddweud ei fod wedi clywed honiad gan garcharor mai rhai o staff Carchar y Parc oedd yn gyfrifol am gyflenwi cyffuriau i garcharorion yno.
"Mae cyffuriau ym mhobman yn y carchar - o ganabis i heroin, a'r hyn a elwir yn sbeis. Gall ychydig yn gyson fynd i mewn trwy ymweliadau, a rhai trwy ddrôn.
"Ond gadewch i ni beidio â drysu'r mater - mae llawer mwy yn dod i mewn gan bobl a gyflogir yn y carchar."
Gwadu hynny wnaeth y Gweinidog, gan fynnu bod y mwyafrif o staff mewn carchardai'n onest a chyfrifol.