Gwesty Parc y Strade yn Llanelli yn ail-agor
Fe fydd gwesty yn Llanelli yn ail-agor ddydd Llun ar ôl i'r Swyddfa Gartref roi'r gorau i gynlluniau i osod cannoedd o geiswyr lloches yno.
Fe ddaeth cynlluniau'r Swyddfa Gartref i roi lloches i 241 o bobl yng Ngwesty Parc y Strade i ben fis Hydref diwethaf. Daeth hyn yn dilyn misoedd o brotestiadau a gwrthwynebiad gan gyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae gwaith adnewyddu wedi bod yn digwydd yn y gwesty, ac fe fydd yn ail-agor yn swyddogol ddydd Llun.
Cafodd pob digwyddiad, gan gynnwys priodasau, eu canslo a chafodd 95 aelod o staff eu diswyddo ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi'r cynllun lloches.
Roedd protestwyr yn galw ar weld y gwesty yn “dychwelyd i fod yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau a phriodasau.”
Cafodd gwersyll ei sefydlu y tu allan i'r gwesty gan brotestwyr oedd yn awyddus i gael tro pedol ar y cynlluniau.
Fe gafodd nifer o bobl eu harestio yn sgil y protestiadau, gyda'r gwaith plismona yn costio mwy na £1m i Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin ym mis Hydref y llynedd eu bod nhw wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig na fydd ceiswyr lloches yn cael eu cartrefu yn y gwesty.