Newyddion S4C

Cwmni cyfryngau cymdeithasol TikTok i noddi crysau CPD Wrecsam

Newyddion S4C 30/06/2021

Cwmni cyfryngau cymdeithasol TikTok i noddi crysau CPD Wrecsam

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi mai'r cwmni cyfryngau cymdeithasol byd-enwog, TikTok, yw noddwyr newydd eu crysau pêl-droed.

Mae'r sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi bod yn berchen ar glwb Pêl-droed Wrecsam ers mis Tachwedd 2020.

Mewn fideo i hyrwyddo'r newyddion ar gyfryngau cymdeithasol y clwb, dywedodd y perchnogion newydd eu bod am i bawb wybod enw a stori Wrecsam.

Fe fydd y cytundeb rhwng y clwb ac un o gewri'r byd cyfryngau cymdeithasol yn parhau am y ddau dymor nesaf.

Daw'r cyhoeddiad ychydig dros fis wedi i gynlluniau am raglen ddogfen am y clwb gael eu cyhoeddi gan y wefan ffrydio Netflix, gyda'r disgwyl y bydd Welcome to Wrexham yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach yn 2021.

Fe lwyddodd Clwb Pêl-droed Wrecsam i orffen yn hanner uchaf y tabl yn y Gynghrair Genedlaethol ar ddiwedd y tymor diwethaf, yn yr wythfed safle.

Dywedodd Humphrey Ker, Prif Weithredwr CPD Wrecsam: "Roeddwn wedi'n rhyfeddu gan y syniadau oedd gan TikTok ar gyfer eu partneriaeth gyda'r Clwb.

"Mae cael TikTok ar flaenau ein crysau yn 'coup' mawr ac rydym yn sicr y bydd yn boblogaidd ymhlith ein cefnogwyr, yn ogystal â'r sawl sy'n weithgar ar TikTok".

Dywedodd Nick Tran, Pennaeth Marchnata TikTok: "Mae TikTok mewn lleoliad unigrhyw wrth ganolbwynt adloniant, technoleg a'r gymuned greadigol i helpu i ddod a stori CPD Wrecsam yn fyw i gynulleidfaoedd byd-eang".

Llun: Clwb Pêl-droed Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.