Newyddion S4C

Maes Awyr Caerdydd i ganiatáu teithio gyda dros 100ml o hylif erbyn diwedd y flwyddyn

01/06/2024
maes awyr caerdydd

Mae disgwyl i Faes Awyr Caerdydd ganiatáu pobl i deithio gyda hylifau fel poteli dŵr sy’n cynnwys mwy na 100ml o hylif erbyn diwedd y flwyddyn. 

Dywedodd Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Spencer Birns ei fod yn disgwyl i’r maes awyr fabwysiadu technoleg newydd fydd yn golygu nad oes rhaid i deithwyr dynnu hylifau a gliniaduron o'u bagiau bellach.

“Rydym yn disgwyl derbyn technoleg newydd yn ddiweddarach eleni a byddwn yn eu cyflwyno pan fo’n briodol,” meddai.

Daw hyn wedi i Faes Awyr Bryste gyhoeddi ddydd Gwener mai nhw oedd y diweddaraf i gyflwyno’r dechnoleg newydd, wedi buddsoddiad gwerth £11 miliwn, a bod disgwyl i’r sganwyr newydd fod yn weithredol erbyn 14 Mehefin.

Yno, ni fydd teithwyr yn cael eu cyfyngu i gario 100ml o hylifau neu lai, gyda'r rheolau llym ar fin cael eu dileu wrth gyflwyno'r dechnoleg newydd.

Mae Mr Birns wedi dweud bydd angen i bobl sy’n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd barhau i ddilyn y rheolau presennol ar hyn o bryd, gan olygu bod angen cario hyd at 100ml o hylifau, aerosolau a geliau mewn cynwysyddion a’u storio mewn bag tryloyw 1 litr. 

Mae’n annog teithwyr i wirio gwefan Maes Awyr Caerdydd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Meysydd awyr eraill

Nid yw'r dechnoleg wedi ei chyflwyno ym mhob maes awyr eto.

Nid oes gan Heathrow, Gatwick, Stansted a Manceinion y dechnoleg hyd yma, ac maen nhw wedi cael estyniad tan haf 2025 i wneud yn siŵr eu bod wedi gosod y sganwyr newydd.

Mae'r dechnoleg yn cael ei chyflwyno mewn meysydd awyr dramor, gydag ychydig o leoliadau y tu allan i'r DU eisoes yn eu defnyddio.

Mae cymdeithas masnach teithio ABTA wedi rhybuddio unrhyw un sy’n mynd dramor i gadw at y rheolau 100ml presennol, gan ddweud nad oes gan lawer o feysydd awyr tramor y sganwyr newydd hyd yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.