Diane Abbott yn 'rhydd i sefyll fel ymgeisydd Llafur' yn ôl Keir Starmer
Mae Diane Abbott yn “rhydd” i sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol fel ymgeisydd Llafur, yn ôl arweinydd y blaid, Syr KiKeirr Starmer.
Roedd Ms Abbott, sy'n AS ar gyfer Gogledd Hackney a Stoke Newington, wedi dweud yn gynharach yn yr wythnos ei bod hi wedi 'ei gwahardd' rhag cynrychioli’r blaid yn yr etholiad cyffredinol, fydd yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.
Roedd Ms Abbott wedi ei gwahardd gan y blaid y llynedd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i sylwadau hiliol honedig.
Ar ôl iddi hi gael y chwip yn ôl ddydd Mawrth, roedd Mr Starmer wedi gwrthod cadarnhau os byddai Ms Abbott yn cael cynrychioli’r blaid yn yr etholiad.
Ond wrth gael ei holi ddydd Gwener, dywedodd: “Mae’r chwip wedi’i hadfer iddi nawr ac mae’n rhydd i fynd ymlaen fel ymgeisydd Llafur.”
Fe aeth Mr Starmer ymlaen i roi teyrnged i Ms Abbott, gan ddweud: “Cafodd Diane Abbott ei hethol yn 1987, yr AS benywaidd du gyntaf.
“Mae hi wedi cerfio llwybr i bobl eraill ddod i mewn i wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.”
Fe gafodd Ms Abbott ei gwahardd fel Aelod Seneddol y blaid yn dilyn cyhoeddi llythyr am hiliaeth yn yr Observer ym mis Ebrill y llynedd.
Roedd y llythyr gan Ms Abbott yn ymateb i erthygl yn yr Observer gyda’r pennawd, ‘Nid yw hiliaeth ym Mhrydain yn fater du a gwyn. Mae’n llawer iawn fwy cymhleth.'
Yn y llythyr, awgrymodd Ms Abbott fod grwpiau fel Gwyddelod, Iddewon a Theithwyr wedi profi rhagfarn yn hytrach na hiliaeth.