Newyddion S4C

Tegwen Bruce-Deans yn ennill coron Eisteddfod yr Urdd

31/05/2024

Tegwen Bruce-Deans yn ennill coron Eisteddfod yr Urdd

Tegwen Bruce-Deans yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

Fe gafodd Tegwen ei choroni ar Lwyfan y Pafiliwn Gwyn yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ddydd Gwener.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin y llynedd, sy’n ei gwneud yr ail berson erioed i gyflawni’r “dwbl”.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Terfynau’. Daeth 19 ymgais i law gyda’r beirniad Elin Llwyd Morgan a Caryl Lewis “wedi mwynhau dethol a thrafod y darnau.”

Dywedodd Caryl Lewis am y gwaith buddugol: “Dyma stori syml ond pwerus am ferch sy’n disgwyl am ei chariad mewn gorsaf drenau (‘Llefydd helô a ffarwel’) gyda neges sy’n annhebygol o’i blesio. Mae’r arddull yn farddonol ar adegau ond heb fod yn chwithig, a’r frawddeg olaf gryno yn cyfleu cyfrolau.

“Yn ddi-gwestiwn, dyma ddarn mwyaf caboledig a soffistigedig y gystadleuaeth a’r darllenydd yn medru synhwyro fod yna law brofiadol wrth y llyw yn ein harwain trwy’r daith emosiynol. Mae gan yr awdur lais graenus a dawn naturiol i fedru synhwyro rhythm stori. Wrth ddarllen, roedd y ddwy ohonom yn llwyr ymgolli yn y sefyllfa ac yn anghofio mai beirniadu oedden ni. Dyna ydi dawn llenor - i greu rhith y gallwn ei gredu gan fynd â’n meddyliau i lefydd newydd.”

Graddiodd Tegwen yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn 2022. Mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mangor.

Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi, ‘Gwawrio’, fel rhan o gyfres 'Tonfedd Heddiw' Cyhoeddiadau Barddas. Ers hynny mae hi wedi ymuno â thîm Talwrn Twtil, ac yn un o bum bardd sydd yn rhan o gynllun Pencerdd eleni trwy garedigrwydd Llenyddiaeth Cymru a Barddas. Mae ei gwaith barddonol wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad - ond dydy ei gwaith rhyddiaith erioed wedi cyrraedd print, cyn heddiw.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Mirain Iwerydd o Grymych a Heledd Evans o Gaerdydd yn drydydd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.