Newyddion S4C

'Methu codi fy mab': Ken Owens yn disgrifio'r boen ar ôl yr anaf a ddaeth a'i yrfa i ben

31/05/2024
Ken Owens (Huw Evans)

Mae cyn-gapten rygbi Cymru wedi bod yn trafod y boen mae wedi dioddef yn sgil anaf a ddaeth a'i yrfa rygbi i ben.

Bydd rhaglen ddogfen arbennig yn dilyn Ken Owens yn ystod y flwyddyn olaf o’i yrfa rygbi wrth iddo geisio dygymod â’r anaf.

Ar ôl gyrfa ddisglair yng nghrysau coch y Scarlets, Cymru a’r Llewod, fe wnaeth y bachwr gyhoeddi ym mis Ebrill ei fod yn ymddeol o’r gamp ar unwaith.

Daw hynny wedi iddo geisio gwella o'r anaf i’w gefn dros gyfnod o flwyddyn.

Mae’r rhaglen Ken Owens: Y Sheriff, yn ei ddilyn yn ystod cyfnod olaf ei yrfa, o’r cyfnod pan gafodd ei enwi’n gapten ar ei wlad cyn y Chwe Gwlad yn 2023, i’r misoedd o boen y dioddefodd yn ddiweddarach o ganlyniad i’r anaf.

Dywed Ken yn y rhaglen fod y boen "ar ei waethaf ym mis Medi 2023",  a hynny wedi iddo ddioddef haint ar ôl llawdriniaeth. 

Pan roedd ei gyd-chwaraewyr yn cystadlu yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc, roedd Ken yn eu gwylio o’i gartref ac yn gorfod cropian i’r ystafell ymolchi er mwyn brwsio ei ddannedd. 

Roedd yn rhaid i’w fam, Frankie, ddod i’w helpu gyda’i fab chwe mis oed, Talfan, gan nad oedd yn gallu ei godi.

Image
Ken Owens yn gwylio wrth i'w fam, Frankie fwydo ei fab, Talfan
Ken Owens yn gwylio wrth i'w fam, Frankie fwydo ei fab, Talfan (S4C/Whisper)

“Dechrau’r flwyddyn, ro’n i’n gapten Cymru. Nawr, yn ishte yn gwylio Cwpan y Byd a braidd yn gallu symud,” meddai Ken.

"Fi mewn poen am bron i bedwar mis nawr. Weithiau, fi’n codi yn y bore a trial mynd i'r tŷ bach, a ma'n rhaid cropian fel babi.

"Ac ambell waith sai'n cyrraedd y tŷ bach ac mae hynny'n eitha' dramatig.

"Sa'i moyn i bobl deimlo'n sori i fi, ond ie, mae'n agony.

"Mae mam fi'n dod draw i helpu i edrych ar ôl Tal achos sai'n gallu pigo fe lan na phlygu lawr i wneud dim byd rili... ma'n eitha' caled."

Y cyfnod 'caletaf' i gapten Cymru

Fel capten y tîm cenedlaethol yn ystod un o gyfnodau fwyaf cythryblus yn hanes rygbi Cymru, roedd 2023 eisoes wedi bod yn flwyddyn anodd i Ken.

Yn ystod y Chwe Gwlad, roedd trafodaethau rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r Bwrdd Chwaraewyr Proffesiynol yn cael eu cynnal, er mwyn ceisio cytuno ar strwythur a chytundebau holl chwaraewyr y genedl.

Image
Ken Owens

A thridiau cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr, fe wnaeth y tîm cenedlaethol fygwth i fynd ar streic a pheidio â chwarae’r gêm.

Dywedodd ar y pryd: “Mae lot o pethe di digwydd yn y gêm dros y pedwar wythnos  diwethaf a dyna probably y peth mwya dwi wedi meddwl amdano ydi bod angen i gapten Cymru sefyll lan a dweud rhywbeth neu neud rhywbeth.

“Dyna’r peth mwyaf i drial gweithio mas ydi pryd ma angen gwneud hynny ac fel mae wneud hi hefyd.

“Hwn di'r foment waethaf fi byth wedi gweld yn y gêm yng Nghymru ers i fi fod yn broffesiynol. Fi'n berson sy’n meddwl bo fi di gweld popeth yn y gêm ond, shambles basically.”

Fe gafodd y streic ei hatal, gyda’r capten yn chwarae rôl ganolog yn y trafodaethau, yn ôl Prif Weithredwr dros dro’r URC ar y pryd, Nigel Walker.

Ar ôl ei holl ymdrechion i ddychwelyd i’r maes, fe benderfynodd Ken i ddod a'i yrfa i ben fis Ebrill, wedi iddo ennill 95 cap dros Gymru, chwarae mewn pum gêm brawf dros y Llewod, a 274 o ymddangosiadau dros y Scarlets.

“Mae rygbi wedi bod yn bywyd fi, bywyd fy nheulu ers i mi gael fy ngeni,” meddai.

Image
Ken Owens
Ken Owens ar drip ar ôl derbyn llawdriniaeth ar ei gefn (S4C/Whisper)

“Mae rygbi di roi popeth i fi, mae di roi profiadau, mae di roi ffrindiau i fi am oes. Mae ‘na ups and downs, fi’n gwybod y risks o chwarae rygbi, so fi’n dwp.

“Ond mae rwbath eitha warped, fi’n mwynhau’r sialens, y gwrthdrawiadau, y physicality o’r gêm, testio fy hunan yn erbyn chwaraewyr gorau’r byd, a fi di cael cyfle i wneud hynna.

“Gweld fy ffrindiau wedi ymddeol dros y 18 mis diwethaf, mae’r dynamic yn newid, mae’r amser yn dod lle mae rhywun arall yn gorfod sefyll lan a chael y cyfle yn y crys coch na, sy’n grêt a fyddai’n mwynhau’ gwylio nhw’n neud e – ond mae’n amser i’r genhedlaeth nesa dod trwyddo.”

Bydd Ken Owen: Y Sheriff yn cael ei ddangos ar S4C am 21.00 ar nos Sul 2 Mehefin.

Prif Lun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.