Yr heddlu'n apelio ar bobl i gadw draw o leoliad dyfais ffrwydrol
31/05/2024
Mae Heddlu'r De'n parhau i gynghori pobl i gadw draw o leoliad yng Nghaerdydd ar ôl i "ordnans" gael ei ddarganfod yno ddydd Iau.
Cafodd y ddyfais ffrwydrol ei darganfod ar y lan wrth ymyl Rover Way ger Y Sblot.
Dywedodd Heddlu De Cymru ddydd Gwener fod cordon yn parhau yn ei le, a bod swyddogion arbenigol yn ymchwilio'r ddyfais sydd "ychydig ddegawdau oed".
Mae'r swyddogion yn pwyso a mesur eu camau nesaf.
Ddydd Iau fe rybuddiodd yr heddlu y gallai trigolion glywed ffrwydradau ac nid oedd unrhyw reswm iddynt ddychryn.