Newyddion S4C

Dydd y Farn: Diwedd tymor cymysg i ranbarthau rygbi Cymru

01/06/2024

Dydd y Farn: Diwedd tymor cymysg i ranbarthau rygbi Cymru

Bydd rhanbarthau rygbi Cymru yn wynebu ei gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn wrth i'r tymor ddirwyn i ben.

Bydd y Gweilch, sydd â chyfle i gyrraedd gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig, yn herio Rygbi Caerdydd, tra bod y Dreigiau yn wynebu'r Scarlets.

Mae'r Gweilch angen ennill gyda phum pwynt, sef ennill â chais bonws. Ond hefyd mae angen iddyn nhw ddibynnu ar ganlyniadau eraill er mwyn cyrraedd y gemau ail-gyfle.

Mae hyn yn cynnwys canlyniadau tair gêm arall - sef Leinster yn erbyn Connacht, Stormers yn erbyn Lions a Benetton yn erbyn Caeredin.

Nid yw'r sefyllfa yn un hawdd i'r Gweilch, a bydd canlyniadau eraill ddim o bwys os nad ydynt yn gallu sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws.

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd hyfforddwr y Gweilch, Toby Booth bod y Gweilch yn haeddu bod yn y sefyllfa yma.

"Bydden ni'n gwybod erbyn i ni chwarae os bydd cyfle gennym i gyrraedd y gemau ail-gyfle neu beidio, ond ni fyddwn yn datgan hynny neu beidio i'r chwaraewyr.

"Ond rydym ni yn y sefyllfa yma oherwydd yr hyn rydym ni wedi ei wneud eleni.

"Dwi wedi mwynhau eleni oherwydd dwi wedi gweld chwaraewyr ifanc yn camu i'r adwy ac eisiau symud y clwb ymlaen, mae'r chwaraewyr ifanc yn dod a'r egni ac wedi dod ag elfennau positif i'r clwb."

Image
Gweilch v Rygbi Caerdydd
Y Gweilch oedd yn fuddugol yn erbyn Rygbi Caerdydd ym mis Ionawr. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Caerdydd fydd yn ceisio rhwystro cyfle'r Gweilch i gyrraedd y gemau ail-gyfle a cheisio dod â thymor lle mae'r clwb wedi ennill ar bedwar achlysur yn unig i ben ar nodyn positif.

Maen nhw un safle y tu ôl i'w gwrthwynebwyr yn y gynghrair ond mae bwlch o 15 pwynt rhyngddynt.

Dywedodd hyfforddwr y rhanbarth, Matt Sherratt, bod y chwaraewyr bob tro ar eu gorau mewn gemau darbi.

"Fi'n meddwl ei fod yn rhywbeth mae pawb yn edrych ymlaen ato.

"Mae'r flwyddyn wedi bod yn un hir ond un rydym ni wedi mwynhau, felly gobeithio ein bod ni'n gallu gorffen y tymor yn dda dydd Sadwrn.

"Rydym ni wedi gweld wrth chwarae yn erbyn Caerfaddon a'r Harlequins y tymor yma, os oes 'na hanes tu ôl i'r gemau, mae pawb ar eu gorau, y chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr.

"Mae dros 100 mlynedd o hanes rhwng Caerdydd a'r Gweilch felly mae hynny bob tro yn dod â dimensiwn gwahanol."

'Gorau rygbi Cymru'

Bydd gan y Dreigiau'r cyfle i wneud y dwbl dros y Scarlets am y tro cyntaf ers tymor 2007/08.

Tair gêm yn unig mae'r Dreigiau wedi eu ennill yn y gynghrair y tymor hwn, sydd yn golygu eu bod nhw yn safle rhif 15 allan o 16 yn y gynghrair.

Wrth siarad cyn yr ornest brynhawn ddydd Sadwrn dywedodd eu hyfforddwr Dai Flanagan ei fod yn gobeithio ailadrodd eu perfformiad yn erbyn y Scarlets y llynedd pan enillon nhw o 31-14.

"Roedd Dydd y Farn llynedd yn grêt, dyna oedd rygbi Cymru ar ei orau. Os oes 'na ddiwrnod sydd yn gallu ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, digwyddiad fel hyn yw hynny.

"Roeddem ni ar ochr anghywir y canlyniad yn erbyn y Gweilch y tro diwethaf, felly fe fyddai'n neis i orffen ar nodyn positif yn erbyn y Scarlets a rhoi teimlad da i ni wrth fynd mewn i'r haf.

“Roedd ein perfformiad gorau y llynedd yn erbyn y Scarlets ac roedd hynny wedi rhoi cymhelliant i bawb, roedd hynny wedi rhoi momentwm i ni a gafodd ei sbwylio gan hyd yr haf oherwydd Cwpan y Byd.

"Nid yw'r haf mor hir eleni felly rydym ni eisiau gorffen yn gryf."

Image
Dreigiau v Scarlets
Mae'r Scarlets yn safle 14 yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, tra bod y Dreigiau un safle y tu ôl iddynt. Llun: Asiantaeth Huw Evans

 

'Optimistig'

Fel y Dreigiau, nid yw'r Scarlets wedi cael tymor i'w gofio eleni.

Maen nhw wedi ennill pedair gêm yn unig yn yr URC a dwy ohonynt yn erbyn Caerdydd.

Wrth i'r tymor ddirwyn i ben mae eu hyfforddwr, Dwayne Peel yn dweud bod eleni wedi bod yn flwyddyn lle mae'r garfan wedi gorfod addasu yn sgil anafiadau i chwaraewyr hŷn.

Mae'r bachwr Ken Owens a'r canolwr Jonathan Davies wedi dioddef anafiadau difrifol ac yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor.

"Rydym ni wedi gweld nifer o chwaraewyr hŷn allan o'r garfan ac mae addasu wedi bod yn her," meddai Peel.

"Rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu’r grŵp nesaf o chwaraewyr ac arweinwyr, mae gennym ni grŵp da o chwaraewyr ifanc ac mae llawer i fod yn optimistig amdano.

"Dwi'n meddwl bydd Dydd y Farn yn ddigwyddiad da. Dwi wedi bod yma i wylio gemau pêl-droed Cymru ac mae'r awyrgylch yn wefreiddiol. Mae'n bwysig i rygbi Cymru ac i'r pedwar ohonom fel clybiau proffesiynol i sicrhau bod y diwrnod yn un da.

“Bydd y plant yma am y tro cyntaf ac mae angen i ni greu gymaint o bositifrwydd â phosib."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.