Carcharu gang am y twyll budd-dal mwyaf yn hanes Cymru a Lloegr
Mae pum aelod o gang a hawliodd fwy na £53 miliwn mewn credyd cynhwysol drwy dwyll wedi’u carcharu.
Y gred yw mai dyma'r achos mwyaf o'i fath o dwyll budd-daliadau yng Nghymru a Lloegr erioed.
Dywedodd y Barnwr David Aaronberg KC fod Gyunesh Ali, 34, wedi cyflawni twyll trwy gynrychiolaeth ffug “ar raddfa ddiwydiannol” yn ystod cyfnod y cynllun oedd wedi ei drefnu gan y Bwlgariaid Galina Nikolova, 39, Stoyan Stoyanov, 28, Tsvetka Todorova, 53, a Patritsia Paneva, 27.
Ddydd Iau yn Llys y Goron Wood Green yn Llundain, fe gawson nhw ddedfryd o gyfanswm o 25 mlynedd a phum mis o garchar ar ôl pledio’n euog yn flaenorol i dwyll a throseddau’n ymwneud â gwyngalchu arian.
Rhybuddiodd y barnwr eu bod nhw i gyd yn agored i gael eu halltudio ar ôl cwblhau eu dedfrydau ac ychwanegodd fod yn rhaid i “swm enfawr o waith” gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gael ei wneud er mwyn erlyn y giang.
Dywedodd y barnwr: “Credir mai hwn gyda’i gilydd yw’r achos mwyaf i’w erlyn erioed am dwyll budd-daliadau ar yr Adran Gwaith a Phensiynau.
"Roedd yn achos anodd iawn i'w ddatrys."
Cafwyd hyd i arian parod wedi’u stwffio mewn bagiau siopa a chêsys, car moethus a nwyddau drud yn ystod cyrch ar eu heiddo, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Roedd y diffynyddion wedi gwneud miloedd o geisiadau ffug am fudd-daliadau gan ddefnyddio pobl go iawn neu ddwyn hunaniaeth unigolion, gyda cheisiadau budd-dal wedi’u cefnogi gan amrywiaeth o ddogfennau ffug gan gynnwys cytundebau tenantiaeth, cofnodion cyflog a llythyrau gan landlordiaid, cyflogwyr, ysgolion a meddygon teulu.
Pe bai eu ceisiadau'n cael eu gwrthod, byddai'r twyllwyr yn ceisio dro ar ôl tro nes iddynt gael eu caniatáu.
Fe wnaeth ymchwilwyr ddarganfod tair “ffatri fudd-dal” yn Llundain, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron, gan honni eu bod yn helpu pobl i gael rhif yswiriant gwladol gan ddefnyddio “pecynnau hawlio” oedd cynnwys dogfennau ffug.
Fe fyddai’r gang hefyd yn rhoi awgrymiadau i bobl am sut i dwyllo’r system, clywodd y llys.