Newyddion S4C

Record Llafur yn golygu 'nad oes modd ymddiried ynddynt' medd y Ceidwadwyr Cymreig

31/05/2024
Lansiad ymgyrch y Ceidwadwyr

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn lansio eu hymgyrch yng Nghymru ddydd Gwener yn Sir Fynwy gan rybuddio pobl fod record Llafur yn golygu nad oes modd ymddiried ynddyn nhw.

Wrth lansio'r ymgyrch, mae disgwyl mai un o brif negeseuon y Ceidwadwyr fydd ymosod ar record Llywodraeth Lafur Cymru.

Mae disgwyl i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd Andrew RT Davies gyfeirio at restrau aros hir, gwasanaeth iechyd Cymru, cyfraddau busnes uchel a'r rheol 20mya. 

Mae Ysgrifennydd Cymru David TC Davies hefyd wedi tynnu sylw at addewid y blaid i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd cyflymach yn y gogledd, a'r ffaith bod Wylfa ar Ynys Môn yn ddewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd.

Wrth siaradgyda'r BBC fore Gwener, dywedodd David TC Davies: "Dwi ddim yn gallu deall y polau opiniwn o gwbl, 'wy wedi siarad gyda cannoedd o bobl ar stepen y drws a pobl yn crac iawn gyda Llafur yng Nghymru oherwydd eu record dros wasanaeth iechyd, dros addysg, y ffaith bo' nhw'n mynd i wario mwy na miliwn o bunnoedd ar fwy o wleidyddion.

"Fi'n dweud at bobl os chi'n pleidleisio Llafur yn yr etholiad i ddod, byddech chi'n mynd i gael fwy o hynny ledled y Deyrnas Unedig. Ar yr un pryd, dwi'n deall fod pobl ddim yn fodlon gyda sefyllfa ni wedi cael dros y blynyddoedd diwethaf. 

"Ni wedi cael heriau anodd iawn gyda'r pandemig a'r rhyfel gyda chwyddiant, fi'n deall hynny, fi'n deall bod pobl eisiau sefydlogrwydd a dyna'r hyn mae'r blaid Geidwadol eisiau cynnig."

Rheilffyrdd

Wrth sôn am un o bolisïau'r Ceidwadwyr yn yr etholiad, sef trydaneiddio'r rheilffordd yng ngogledd Cymru, ychwanegodd Mr Davies: "Os ma'r HS2 wedi cael ei adeiladu, falle byddai pobl yn enwedig yn y gogledd wedi elwa oherwydd hynny ond ar diwedd y dydd, mae costau wedi mynd i fyny a felly dwi'n cefnogi Rishi Sunak pan mae'n dweud mae'n well i ni nawr cadw HS2 i'r rhan gyntaf, ac yn caniatau ardaloedd eraill i gwneud y pres gan gynnwys Cymru.

"Ar ben yr arian ni wedi wario ar reilffordd yng Nghymru, bron £400m, ni wedi cefnogi pethau fel South Wales Metro sydd wedi cael y gyllid trwy Llywodraeth Prydeinig a Llywodraeth Cymru hefyd so 'dyn ni wedi buddsoddi llawer iawn i mewn yn y rheilffordd yng Nghymru."

Cyhoeddodd Rishi Sunak dros y penwythnos y byddai rhaid i bobl 18 oed gyflawni math o wasanaeth cenedlaethol pe bai’r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad ar 4 Gorffennaf.

Dywedodd Mr Davies: "Fi'n credu bod pobl ifanc wedi dioddef oherwydd Covid, lot o bobl ifanc ddim yn teimlo'n rhan o'n cymdeithas, mae gyda ni problem iechyd meddwl gyda pobl ifanc, hwn yw cynllun i ganiatáu pobl ifanc i teimlo'n rhan o cymuned a contributeio mewn i cymuned, nid trwy'r lluoedd arfog er bod hynny yn rhan bwysig o'r cynllun - y mwyafrif fawr ledled Prydain yn mynd i gwirfoddoli gyda charities, mudiadau fel NHS, heddlu, RNLI."

"Does neb yn gorfodi unrhyw un i ymuno â'r lluoedd arfog."

Mae'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi lansio eu hymgyrchoedd etholiadol yn ystod y dyddiau diwethaf.

Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn lansio eu hymgyrch yn Sir Fynwy. Mae'r ymgeiswyr yn yr etholaeth honno'n cynnwys William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol, Catherine Fookes o'r Blaid Lafur, David TC Davies ar ran y Ceidwadwyr, Tim Miles o Reform, gyda Phlaid Cymru heb gyhoeddi eto pwy fydd eu hymgeisydd.

Llun: X / @WelshConservatives

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.