Arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad ger Trawsfynydd

30/06/2021
A470 Trawsfynydd
Google Street View

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes yn ei 30au cael ei hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ddydd Mawrth.

Mae dyn yn ei 30au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'r beryglus a drwy yrru o dan ddylanwad alcohol. 

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Brenhinol Stoke gan Ambiwlans Awyr yn dilyn y digwyddiad ger Gorsaf Bŵer Trawsfynydd ychydig wedi 20:30 nos Fawrth, 29 Mehefin. 

Dywed yr heddlu fod y gwrthdrawiad yn cynnwys Audi A3 glas, gyda'r ddynes wedi dioddef ag anafiadau difrifol. 

Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona’r Ffyrdd: “Rwy’n gobeithio y bydd y ddynes ifanc yn gwella’n llawn.

“Rwy’n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd rhwng pentref Trawsfynydd a’r mynediad i’r Orsaf Bŵer rhwng 20.25 a 20.35 sydd o bosib gyda fideo dashcam sy’n dangos Audi A3 glas gyda rhif plât 08 yn gyrru ar y ffordd cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu gyda ni. 

“Cafodd y ffordd ei chau er mwyn cynnal ymchwiliad fforensig llawn i’r gwrthdrawiad ac rwy’n ddiolchgar am yr amynedd a ddangoswyd gan ddefnyddwyr y ffordd y gallai eu taith fod wedi cael eu heffeithio oherwydd y digwyddiad hwn.”

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.