Newyddion S4C

Teyrnged i ferch 17 oed a fu farw ar ôl damwain a laddodd dau ddyn ifanc o Wrecsam

30/05/2024
Huw Craven-Jones, Sophie Bates a Morgan Jones

Mae teulu merch 17 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Stafford wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu dau ddyn ifanc o Wrecsam farw yn yr un ddamwain ar Ffordd Cannock yn Penkridge, ddydd Sadwrn, 25 Mai.

Bu farw Sophie Bates, o dref Stafford, nos Fawrth yn dilyn y gwrthdrawiad.

Bu Dafydd Hûw Craven-Jones, 18, o Danyfron, Wrecsam, a Morgan Jones, 17, o Goedpoeth, Wrecsam farw yn gynharach.

Roedd y tri yn teithio mewn car Ford Ka pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd teulu Sophie Bates ei bod hi'n ferch llawn egni ac yn uchelgeisiol.

“Roedd ein tywysoges Sophie, y chwaer fawr orau, wyres, nith, cefnder a ffrind i lawer, mor gryf ar y tu allan ond mor garedig a meddylgar ar ei thu mewn. Llawn hwyl ac yn ffraeth tu hwnt.

“Roeddem mor falch o’r oedolyn ifanc roedd Sophie’n datblygu iddi, gyda’r cynlluniau bywyd roedd hi’n eu rhoi ar waith, rhagori yn y coleg a'i lleoliad gwaith, yn llawn egni ac roedd ganddi uchelgais i redeg ei busnes ei hun. 

"Roedd Sophie yn caru ei ffrindiau ac yn mwynhau ei bywyd yn ei harddegau a chael amser da.

“Bydd colled fawr ar ôl ein merch annwyl Sophie a byddwn yn ei charu’n dragwyddol. Bydd hi yn ein calonnau am byth."

Mae merch 17 oed arall a gafodd ei chludo i’r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau yn y gwrthdrawiad wedi cael gadael yr ysbyty.

Mae swyddogion Heddlu Sir Stafford yn awyddus i siarad â phobl a welodd y gwrthdrawiad neu'r rhai sydd ag unrhyw wybodaeth am y car yn arwain at y gwrthdrawiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.