Rhybudd i rieni wedi cynnydd mewn achosion o’r frech goch
Mae swyddogion iechyd wedi galw ar rieni i sicrhau bod eu plant wedi cael dau ddos o’r brechlyn MMR wedi cynnydd mewn achosion o’r ferch goch yn un o ranbarthau Cymru.
Cafodd naw achos ychwanegol o’r frech goch (measles) eu cofnodi yng Ngwent yn ystod mis Ebrill, gyda'r cyfanswm yn codi i 17 o achosion erbyn hyn.
Mae swyddogion iechyd hefyd yn galw ar deuluoedd sy’n bwriadu teithio dramor neu fynd i ddigwyddiadau torfol dros yr haf i sicrhau bod eu plant wedi eu brechu.
Dywedodd Beverley Griggs, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, mai’r nod oedd “atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo ymhellach”.
Dywedodd fod yr achosion newydd a gadarnhawyd mewn pobl a nodwyd fel cysylltiadau agos ag achosion blaenorol, a nad oedd unrhyw achosion newydd wedi'u nodi ers 20 Mai.
“Fodd bynnag, i atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo ymhellach, ac i amddiffyn y mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, mae'n bwysig bod pawb sy'n gymwys yn cael y ddau ddos o'r brechlyn MMR,” meddai.
“Rydym yn gwybod bod y frech goch yn trosglwyddo'n hawdd pan fo pobl yn agos at ei gilydd.
“Gall rhieni a gofalwyr wirio statws brechu MMR eu plentyn drwy wirio llyfr coch eu plentyn, neu fynd i wefan eu bwrdd iechyd lleol.”
Gwybodaeth
Gall y frech goch fod yn salwch difrifol i blant ond gellir ei dal ar unrhyw oedran.
Gall peidio â chael eich brechu achosi niwed i eraill gan gynnwys babanod, menywod beichiog nad ydynt wedi cael y brechlyn, pobl hŷn a'r rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach, meddai doctoriaid.
Mae dau ddos o'r brechlyn MMR yn fwy na 95 y cant yn effeithiol wrth atal y frech goch, meddai’r gwasanaeth iechyd.
Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent yn 12 mis oed a'r ail ychydig ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.
Fodd bynnag, os yw plant yn ymweld â gwledydd lle ceir nifer uchel o achosion o'r frech goch, gellir rhoi brechlyn MMR o chwe mis oed gyda rhagor o ddosau'n cael eu rhoi yn unol â'r drefn arferol o 12 mis.
Yn ogystal, mae oedolion sydd erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR ac sydd mewn cysylltiad agos â phlant yn cael eu hannog i siarad â'u meddyg teulu am frechu.
Ceir rhagor o wybodaeth yma.