Carcharu dyn am fynd â chyllell i mewn i dafarn ger Caernarfon
Mae dyn wedi ei garcharu am 14 mis am fynd â chyllell i mewn i dafarn ger Caernarfon.
Fe wnaeth Gareth Kells, 41 oed, o Pentre Uchaf, Bontnewydd ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar ôl cyfaddef i fygwth rhywun mewn man cyhoeddus gyda chyllell.
Roedd hefyd wedi cyfaddef i fod â chyllell yn ei feddiant, achosi ffrwgwd a bod ag arf mewn man cyhoeddus.
Ar 26 Ebrill, roedd Kells wedi bod yn yfed yn y Newborough Arms, Bontnewydd pan ddechreuodd ffrae.
Gadawodd y dafarn ond dychwelodd yn ddiweddarach gyda bat pêl-fas a chyllell.
Aeth staff y dafarn a heddwas wedi ymddeol â’r bat pêl-fas a’r gyllell o afael Kells a chafodd ei atal nes i’r heddlu gyrraedd.
Dywedodd y Rhingyll Rhanbarthol Andy Davies: “Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus yn y gymuned a allai fod wedi cael canlyniadau dinistriol oni bai am weithredoedd cyflym y rhai a oedd yn bresennol.
“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am eraill yn cario cyllyll neu arfau roi gwybod yn ddienw i Taclo’r Taclau drwy ffonio 0800 555 111.”