Newyddion S4C

Dyfodol ansicr Hufenfa Mona ar Ynys Môn yn 'peri pryder'

29/05/2024
Hufenfa Mona

Mae yna bryder am ddyfodol Hufenfa Mona Ynys Môn wedi i'r cwmni ddatgan eu bod nhw wedi methu sicrhau "cyllid tymor byr".

Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd y cwmni eu bod yn "brwydro yn erbyn nifer o ffactorau allan o'n rheolaeth" a bod nhw yn methu parhau i weithredu yn y modd y maen nhw ar hyn o bryd.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi datgan pryder am y sefyllfa, gan alw ar Lywodraeth Cymru am gefnogaeth i ddod o hyd i brynwr newydd os bydd angen.

Dywedodd Brian Walters, cadeirydd pwyllgor llaeth yr undeb, y byddai colli'r hufenfa yn cael effaith ddifrifol ar "yr economi'n lleol, a'r 31 o gynhyrchwyr sy'n cyflenwi Hufenfa Mona."

“Mae ffermwyr llaeth ledled Cymru'n wynebu cyfnod digynsail o ansicrwydd, wedi delio ag anhawsterau gaeaf hir a gwlyb, ynghyd a'r ansicrwydd am newidiadau i gefnogaeth amaethyddol a biwrocratiaeth,"meddai

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai proseswyr llaeth eraill mewn sefyllfa i gefnogi cyflenwyr Hufenfa Mona yn y tymor byr.

“Ond er mwyn cael ateb mwy parhaol, y gobaith yw y bydd modd dod o hyd i brynwr newydd i fanteisio ar yr adnoddau arloesol sydd ar y safle ar Ynys Môn," meddai. "Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru am gefnogaeth i sicrhau canlyniad cadarnhaol i'r busnes."

Dywedodd yr hufenfa eu bod yn dal i geisio dod o hyd i atebion i'w problemau.

"Ar ôl pum mlynedd o ymdrechu i ddatblygu’r ffatri gaws mwyaf newydd a mwyaf cynaladwy yn Ewrop, a brwydro yn erbyn llawer o ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, mae Hufenfa Mona yn Ynys Môn yn drist o gyhoeddi ei fod wedi methu â chael digon o gyllid tymor byr gan ei randdeiliaid allweddol i barhau i weithredu yn ei ffurf bresennol," medde nhw. 

"Rydym yn dal yn obeithiol y gallwn sicrhau canlyniad newydd yn y dyddiau nesaf a Mona.

"Prif flaenoriaeth y cyfranddalwyr yw sicrhau cartref diogel i'n 31 o ffermwyr a'n staff ffyddlon ac ymroddedig sydd wedi cefnogi a chredu yn ein gweledigaeth o'r dechrau.

"Byddwn yn parhau i gyflogi ein staff am gyfnod cyn hired â phosib wrth i ni ystyried gwahanol opsiynau."

Mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iowerth, wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "siomedig ac yn peri pryder".

"Mae'r newyddion am yr anawsterau sy'n wynebu Hufenfa Môn yn siomedig ac yn peri pryder, ac mae fy meddyliau gyda staff a chyflenwyr. 
 
"Roedd Hufenfa Môn wedi dod i'r amlwg fel cyflogwr a allai fod yn bwysig iawn dros y blynyddoedd nesaf, a byddaf am weld beth ellir ei wneud i geisio gwireddu potensial y rhan yma o'r sector bwyd mewn blynyddoedd i ddod, ond mae'n amlwg bod hyn yn ergyd."
 
'Gweithio'n ddiflino'
 
Dywedodd Ronald Akkerman, Rheolwr Cyfarwyddwr Hufenfa Mona eu bod nhw am weithio'n "ddiflino" er mwyn "sicrhau'r canlyniad gorau" i bawb sy'n gysylltiedig â Hufenfa Mona.
 
“Rydym wedi gwneud ein gorau glas i ddarparu’r safle prosesu caws gorau a mwyaf modern, amgylcheddol gynaliadwy i’n ffermwyr ac i Gymru.
 
"Roedden ni mor agos, ond nid yw agos wedi bod yn ddigon
 
"Diolchwn i'r holl bobl a ddaeth gyda ni ar ein taith ac mae'n wir ddrwg gennym nad ydyn ni wedi cyrraedd ein gweledigaeth.
 
“Bydd y cyfranddalwyr yn gweithio’n ddiflino dros y dyddiau nesaf i sicrhau’r canlyniad gorau pawb sy'n ymwneud â phrosiect Hufenfa Mona."
 
Roedd Hufenfa Mona wedi buddsoddi £20m yn ei safle yn ddiweddar, gyda £3m mewn grantiau gan lywodraeth Cymru.
 
Roedd gan y safle newydd gynlluniau i fod y ffatri gaws mwya cynaladwy yn Ewrop, gyda'r gobaith o greu mwy na 100 o swyddi, a chynhyrchu hyd at 7,000 tunnell o gaws y flwyddyn.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.