Newyddion S4C

Arestio tri yn Abergele wedi i ddau ddyn gael eu saethu a'u trywanu

29/05/2024
oldham.png

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio mewn parc gwyliau yn Abergele wedi i ddau ddyn gael eu saethu a'u trywanu.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn nhref Chadderton yn Oldham ar 22 Mai wedi adroddiadau fod dyn wedi dioddef 'anafiadau trywanu difrifol'.

Fe gafodd dyn arall ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau ar ôl cael ei saethu.

Fe aeth ditectifs o Heddlu Manceinion ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru i barc gwyliau yn Abergele lle cafodd dyn 32 oed a dyn 22 oed eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio. 

Fe gafodd dyn 28 oed ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r tri yn parhau yn y ddalfa lle byddant yn cael eu cwestiynu gan dditectifs. 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Alex Wilkinson o Heddlu Manceinion: "Hyd yn hyn, rydym wedi cynnal pum gwarant chwilio ac wedi ymweld â naw eiddo fel rhan o’n hymchwiliad wrth sicrhau un cyhuddiad ac arestio wyth."

Ddydd Llun, fe gafodd Stephen Wilson, 28, a Jordan Aston, 33, hefyd eu cyhuddo o geisio llofruddio a chael arf yn eu meddiant. 

Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa. 

Llun: ASP

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.