Newyddion S4C

Cyfnewidfa Lo Caerdydd ar restr adeiladau mewn perygl

29/05/2024
Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Am yr eildro, mae Cyfnewidfa Lo Caerdydd ar restr 'Y Deg Adeilad Gorau Mewn Perygl' y Gymdeithas Fictoraidd. 

Mae'r rhestr, a gafodd ei chyhoeddi gan lywydd y gymdeithas, y digrifwr a'r actor Griff Rhys Jones yn cynnwys deg adeilad yng Nghymru a Lloegr.

Cyfnewidfa Lo Caerdydd yn Nhrebiwt yw'r unig adeilad o Gymru ar y rhestr.

Mae yn "parhau i fod yn un o'r adeiladau pwysicaf yr 19eg ganrif yng Nghymru," meddai'r gymdeithas.

Mae rhai yn dweud bod y siec gyntaf gwerth £1 miliwn wedi cael ei hysgrifennu yn yr adeilad, a bellach mae rhan o'r adeilad yn westy.

Dywedodd Griff Rhys Jones bod cynlluniau "ffôl i foderneiddio'r adeilad" wedi ei ddifrodi.

"Alla i ddim credu hyn, Y Gyfnewidfa Lo yw Caerdydd.

"Mae'n symbol o'r pŵer a adeiladodd y ddinas hon. Nid yn unig hynny, mae'n cael ei garu fel adeilad a gwesty llwyddiannus iawn.

"Mae cynlluniau ffôl i foderneiddio wedi ei ddifrodi'n strwythurol ond mae modd ei adfer, ac mae'r Gymdeithas Fictoraidd yn mynnu bod cynllun priodol yn ei le i ofalu am un o adeiladau pwysicaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru," meddai. 

Image
 Cyfnewidfa Lô Caerdydd
Y  Cyfnewidfa Lo Caerdydd. Llun: Connor McNeill

'Pwysigrwydd cenedlaethol'

Elusen yw'r Gymdeithas Fictoraidd sydd yn "ymgyrchu dros gadwraeth a hyrwyddo diddordeb mewn pensaernïaeth Fictoraidd ac Edwardaidd."

Maen nhw'n honni bod rhannau o'r adeilad wedi cael ei dadfeilio a bod problemau cynnal a chadw a materion diogelwch wedi bod yn y gorffennol.

Ym mis Chwefror 2023 byrstiodd pibell ddŵr gan orfodi’r gwesty i gau. Cafodd y lle ei agor eto mis yn ddiweddarach.

Mae’r Gymdeithas Fictoraidd yn pryderu nad yw'r adeilad rhestredig hwn yn dal i gael ei wasanaethu'n briodol gan ddeiliaid presennol y safle.

Yn ôl James Hughes, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Fictoraidd mae angen cynllun i adfer yr adeilad.

"Mae wedi bod yn ddegawd cythryblus i Gyfnewidfa Lo Caerdydd ers iddo ymddangos diwethaf ar restr Deg Uchaf y Gymdeithas.

"Nid yn unig y mae rhannau helaeth o'r adeilad yn parhau i fod yn wag, ond mae'r gollyngiadau dŵr trychinebus diweddar wedi gorfodi gwaith hynod heriol, yn golygu colli rhannau sylweddol o’r adeiladwaith hanesyddol. Digon yw digon.

"Mae'n bryd bellach i gynllun ystyriol a chynhwysfawr ar gyfer adfer ac ailddefnyddio'r Gyfnewidfa Lo gael ei lunio, ac rydym yn galw ar yr holl randdeiliad i ddod ynghyd i fynd i'r afael â'r hyn sydd, heb os, yn fater o bwysigrwydd cenedlaethol."

Prif lun: Connor McNeill

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.