Newyddion S4C

Newid ysgol uwchradd ym Mhowys i fod yn un cyfrwng Cymraeg

28/05/2024

Newid ysgol uwchradd ym Mhowys i fod yn un cyfrwng Cymraeg

Mae aelodau Cabinet Cyngor Powys wedi cymeradwyo cynllun i newid Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion i fod yn un cyfrwng Cymraeg.   

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno'n raddol gan sicrhau y bydd hi'n ysgol cyfrwng Cymraeg yn y pen draw. 

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Bro Caereinion yn un ddwy ffrwd, Cymraeg a Saesneg. 

Yn 2021 pleidleisiodd Cabinet Cyngor Sir Powys o blaid newid statws iaith Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth i un cyfrwng Cymraeg, yr ysgol gyntaf yn y sir i drawsnewid i fod yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.  

Cymeradwyo argymhellion

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Powys: "Ar ôl iddynt ystyried adroddiad gwrthwynebu, cymeradwyodd Cabinet ddydd Mawrth 28 Mai, ar argymhellion i symud Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg a hynny’n raddol.

"Yn ystod yr wythnos pan fo Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn, 2024 yn cael ei chynnal ger Meifod, bydd penderfyniad y Cabinet yn helpu’r cyngor i fodloni ei Gynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg. 

"Daw penderfyniad heddiw wythnos ar ôl i’r cyngor gyhoeddi fod cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno am adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth, sydd ar hyn o bryd yn trawsnewid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg."

"Byddai’r cynnig yn cael ei gyflwyno’n raddol gan ddechrau gyda Derbyn ym mis Medi 2025 a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2026."

"Byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei darparu i ddisgyblion nad ydynt eto yn y ffrwd Gymraeg, fel rhan o’r cynnig. 

"Byddai hyn ar ffurf cefnogaeth ddwys yn y Gymraeg, sef 'Trochi', i alluogi disgyblion sydd ar hyn o bryd yn y ffrwd Saesneg yng nghyfnod cynradd yr ysgol i drosglwyddo i’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg."

Addysg Gymraeg

Ar faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ddydd Llun, dywedodd Llywydd y Dydd ei fod yn gobeithio y bydd addysg uwchradd "cyflawn Gymraeg" yn ei fro yn y dyfodol. 

Cafodd y canwr a'r actor Steffan Harri ei fagu ar fferm ger Dolanog.

“Ma’r ysgolion cynradd yma yn Sir Drefaldwyn yn mynd o nerth i nerth a’r gobaith sydd gen i ydi bod genna ni addysg uwchradd cyflawn Cymraeg yn y dyfodol agos" meddai wrth Newyddion S4C

"O’n i wastad yn eiddigeddus, o’n i’n mynd i ymarferion Theatr yr Urdd ac yn cwrdd â ffrindiau o ysgolion Syr Hugh Owen, Glan Clwyd, Plas Mawr, Glantaf, ag oeddan nhw yn profi i fi mai nid jest iaith y dosbarth ydi’r iaith Gymraeg, mae’r iaith yn fyw.  

“Y gobaith ydi cael ysgol uwchradd Gymraeg yma ond hefyd mae’r iaith Gymraeg yn bwysig bo’ chi ddim yn anghofio amdanom ni yng nghefn gwlad, bod yr holl gyffro yna i bawb, o’r ddinas i gefn gwlad hefyd,” meddai. 

 "Penderfyniad arwyddocaol" 

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am Ysgol Bro Caereinion, dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Powys: “Mae hwn yn benderfyniad arwyddocaol sy’n cyd-fynd â chynnal Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn, 2024, yn ein sir. 

“Wrth weithredu’r cynnig hwn bydd y cyngor yn darparu darpariaeth wedi ei chynllunio’n dda i gynyddu’r cyfleoedd i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc ddyfod yn gwbl ddwyieithog a rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg gan gyfrannu felly at ddyhead Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae’n bwysig fod y Cabinet wedi clywed safbwyntiau’r rheini a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig a chawsant eu hystyried yn ofalus cyn bod unrhyw benderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.