Lucy Allan, allan: Diarddel AS Ceidwadol am roi sêl bendith i ymgeisydd Reform
27/05/2024
Mae AS Ceidwadol wedi cael ei gwahardd o’i phlaid am y tro am roi sêl bendith i ymgeisydd o blaid Reform yn yr Etholiad Cyffredinol.
Roedd Lucy Allan yn camu o’r neilltu yn sedd Telford ac mae wedi rhoi ei chefnogaeth i ymgeisydd Reform, Alan Adams, yn hytrach na’r ymgeisydd Ceidwadol, Hannah Campbell.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr ei bod hi wedi ei “gwahardd o’r blaid ar unwaith”.
“Mae gan bobl Telford gyfle i bleidleisio o blaid ymgeisydd newydd gweithgar a fydd yn rhoi Telford yn gyntaf.
“Mae pleidlais o blaid Reform yn bleidlais o blaid Keir Starmer,” meddai'r llefarydd.