Sir Benfro: Cyhuddo dyn o geisio treisio a niwed corfforol difrifol ar ôl ymosodiad honedig
Mae dyn wedi ei gyhuddo o geisio treisio ac achosi niwed corfforol difrifol ar ôl ymosodiad honedig yn Sir Benfro.
Cafodd y dioddefwr anafiadau difrifol yn ystod “ymosodiad parhaus” yn ardal Wdig ddydd Gwener, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Mae Benjamin Guiver, 34, o ardal Abergwaun, wedi’i gyhuddo o saith trosedd mewn cysylltiad â’r digwyddiad, gan gynnwys niwed corfforol difrifol, ceisio treisio, a bygwth lladd.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen llys ddydd Llun.
Bydd y tîm plismona yn bresennol yn nhref Wdig dros y dyddiau nesaf i roi sicrwydd i'r gymuned leol.
Mae ymholiadau’n parhau a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda’u hymchwiliad roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys, drwy ddyfynnu'r cyfeirnod: 24000470307
Fel arall, mae modd cysylltu â’r elusen annibynnol Taclo’r Taclau yn ddienw drwy ffonio 0800 555111.