Plaid Cymru yn galw am ail-ymuno â’r farchnad sengl wedi i Brexit 'ddistrywio' economi Cymru
Mae Plaid Cymru wedi galw am ail-ymuno â’r farchnad sengl er lles economi Cymru wrth i’r wythnos lawn gyntaf yn ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol ddechrau.
Dywedodd arweinydd y blaid yn San Steffan, yr AS Liz Saville Roberts bod Brexit wedi “distrywio” yr economi.
Ychwanegodd ei bod hi’n credu bod y ddwy brif blaid yn anwybyddu pwnc Brexit.
"Mae’r etholiad hwn yn ymwneud â dim ond un peth: yr economi,” meddai ar ymweliad â Seiont Nurseries ger Caernarfon.
“Ac mae angen i ni wynebu gwirionedd caled - mae Brexit yn ei ddistrywio.
"Mae unigolyn yn y DU bron i £2,000 yn dlotach yn 2023 o ganlyniad i Brexit. Mae’n anodd credu y bydd yr etholiad yn anwybyddu’r realiti hwnnw.”
‘Anonest’
Daw ei sylwadau wrth i un o ffigyrau mwyaf amlwg y Ceidwadwyr yn ystod gweinyddiaeth Margaret Thatcher ddweud nad oedd digon o drafod Brexit.
Rhybuddiodd Michael Heseltine y bydd ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol ymysg y “mwyaf anonest yn y cyfnod modern” oherwydd bod y ddwy blaid yn gwrthod trafod canlyniadau Brexit.
Wrth ysgrifennu yn yr Independent, dywedodd: “Rydym bellach ar ddechrau’r hyn rwy’n rhagweld a fydd yn etholiad mwyaf anonest yn y cyfnod modern.
“Ni ellir mynd i’r afael yn onest â’r un o’r materion pwysig heb drafod ein perthynas ag Ewrop. Eto i gyd, does neb yn trafod Ewrop.”
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, wedi dweud yn y gorffennol na fyddai am ail-ymuno â’r Undeb Ewropeaidd ond y byddai yn ail-drafod cytundeb Brexit “llawer gwell” pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol.
Mae’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Llafur o beidio â bod yn agored am eu cynlluniau ar gyfer perthynas y DU â’r UE.
'Dyfodol sicr'
Dros y penwythnos fe wnaeth Llafur a’r Torïaid wrthdaro dros bwnc diogelwch ar ôl i’r Ceidwadwyr gyhoeddi cynlluniau dadleuol i gyflwyno gwasanaeth Cenedlaethol.
Mae’r Torïaid wedi dweud y byddai’n rhaid i bob llanc 18 oed wneud gwasanaeth cenedlaethol “gorfodol” os ydyn nhw’n cael eu hail-ethol ar 4 Gorffennaf.
Mewn araith heddiw, mae disgwyl i Syr Keir Starmer ddweud mai “diogelwch economaidd, diogelwch ffiniau, a diogelwch cenedlaethol” fydd yn ganolog i faniffesto’r blaid.
Yn y cyfamser, fe fydd y Prif Weinidog Rishi Sunak yn atgyfnerthu ei neges y bydd y Ceidwadwyr yn sicrhau “dyfodol sicr i’r genhedlaeth nesaf.”