Newyddion S4C

Achosion o ganser melanoma ar eu lefel uchaf ar gofnod

27/05/2024
Traeth - torheulo

Mae nifer yr achosion o ganser croen melanoma ar y lefel uchaf ar gofnod, gyda disgwyl y bydd dros 20,000 o bobl yn y DU yn derbyn diagnosis o’r cyflwr eleni.

Mae ymchwil gan Cancer Research UK wedi dangos cynnydd o bron i draean yng nghyfraddau melanoma dros y ddegawd ddiwethaf, o 21 i 28 bob 100,000 o bobl rhwng cyfnodau 2007-09 a 2017-19.

Ymhlith pobl dros 80 oed, roedd cynnydd 57%, tra bod cynnydd 7% ymysg pobl rhwng oedran 25 i 49.

Dywedodd yr elusen fod modd osgoi tua 17,000 o achosion pob blwyddyn, gyda naw allan o 10 o achosion yn cael eu hachosi gan ormod o ymbelydredd uwchfioled (UV).

Mae UV o’r haul yn gallu niweidio DNA mewn celloedd croen, gan achosi canser ar y croen.

Mae’r elusen yn cynghori pobl i dreulio amser yn y cysgod, yn enwedig rhwng 11yb a 3yp; gorchuddio’r croen gyda dillad; gwisgo het gysgodol; sbectol haul sydd yn hidlo UV; ac eli haul gyda lefel SPF 30 o leiaf, wedi ei roi ymlaen yn rheolaidd.

'Lleihau risg'

Dywedodd Michelle Mitchell, Prif Weithredwr Cancer Research UK: “Mae cyfraddau goroesi canser, gan gynnwys melanoma, yn parhau i wella, sydd yn dangos y cynnydd sylweddol a wnaed gan ymchwil.

“Ond mae’n hanfodol bod pobol yn ceisio lleihau eu risg o gael y clefyd yn y lle cyntaf.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd gofal yn yr haul a chysylltwch â’ch meddyg teulu os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau anarferol i’ch croen – boed yn frychyn newydd neu un sy’n newid, yn ddolur nad yw’n gwella, neu’n rhan o’ch croen sy’n edrych yn anarferol.

“Gall canfod canser yn gynnar wneud byd o wahaniaeth.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.