Newyddion S4C

'Cymaint o orfoledd': Mari Grug yn rhannu newyddion da ar ôl triniaeth canser

27/05/2024

'Cymaint o orfoledd': Mari Grug yn rhannu newyddion da ar ôl triniaeth canser

Mae’r gyflwynwraig Mari Grug wedi dweud wrth bodcast ei bod hi'n teimlo "cymaint o orfoledd" ar ôl derbyn dau sgan clir o ganser ar yr afu yn olynol.

Mae’r gyflwynwraig yn trafod ei stori ers derbyn diagnosis canser a ledodd i'w nodau lymff a'r afu mewn cyfres podlediad Lleisiau Cymru: 1 mewn 2, sydd yn cael ei lansio ddydd Llun – y gyntaf yn y Gymraeg i drafod y pwnc.

Mae Mari yn trafod ei stori o dderbyn diagnosis am ganser y fron yn 2023 a’i phrofiadau ers hynny, a dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd ei stori yn help “i eraill sydd ar yr un siwrne”.

"Mae blwyddyn wedi mynd a dwi'n gwybod bod yn bell gen i fynd 'to - dw i ddim yn naïf a maen nhw'n sgano fi'n gyson," meddai wrth y podlediad.

"Ges i mamogram ar fy mron arall yr wythnos dwytha a mae honna hefyd yn glir. Felly mae'n gyfnod da a dw i'n teimlo'n bositif. 

"Dw i'n edrych ymlaen nawr gobeithio i gael tri mis o lonydd - dim triniaeth, dim cemotherapi."

'Cefnogi'

Yn 38 oed ac yn fam i dri o blant, daeth y diagnosis o ganser fel ergyd, meddai. Wrth geisio dygymod â'r cyfan, fe fuodd hi’n chwilio am bodlediadau i wrando er mwyn helpu gyda'r broses a dywedodd iddi gael ei synnu nad oedd un ar gael yn y Gymraeg, meddai.

Yn ôl ystadegau, gall un ym mhob dau o bobl dderbyn diagnosis canser yn ystod eu hoes, a bwriad y gyfres chwe phennod yw cynnig cysur, cymorth ac anogaeth i unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan y salwch.

Meddai Mari Grug: “Bydden i wedi gwerthfawrogi cael podlediad i wrando arno yn y Gymraeg yn y wythnose a'r misoedd cyntaf pan o ni'n trial neud synnwyr o bethau, felly dwi'n gobeithio bydd 1 mewn 2 yn gallu bod o help i unrhyw un sydd yn mynd trwy yr un peth neu sydd eisiau cefnogi rhywun sydd ar yr un siwrne.”

Yn ogystal â rhannu ei stori bersonol, bydd Mari yn sgwrsio gyda rhai o’r bobl sydd wedi bod o gymorth iddi hi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – nifer yn ffrindiau newydd y mae hi wedi dod i adnabod wrth rannu profiadau.

Ymysg y pynciau trafod fydd y diagnosis, chemotherapi, rhannu’r newyddion gyda theulu a ffrindiau, iechyd meddwl, llawdriniaeth a byw gyda chanser.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd: “Dwi’n edmygwr mawr o Mari a’r ffordd y mae hi wedi rhoi eraill yn gyntaf wrth iddi fynd ar ei thaith ganser bersonol. 

"Dwi hefyd yn hynod falch ei bod wedi penderfynu rhannu’r daith yma gyda gwrandawyr BBC Sounds yn y podlediad newydd pwysig yma, Lleisiau Cymru: 1 mewn 2. Diolch Mari a’r dymuniadau gorau i’r dyfodol i ti a’r teulu.”

 Mae 1 mewn 2 yn rhan o gyfres newydd Lleisiau Cymru sydd ar gael ar BBC Sounds ac yn llawn straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, a chymeriadau mwyaf difyr Cymru - i gyd mewn un lle. 

Yn dilyn cyfres Mari, bydd y dyfarnwr Nigel Owens yn sgwrsio efo athletwyr gorau Cymru am sut maen nhw wedi dod i’r brig, a bydd y cyflwynydd a’r gogyddes Colleen Ramsey yn trafod ei hoff beth – bwyd – gyda gwesteion arbennig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.