Newyddion S4C

Achub person yn y môr wedi i gwch fynd ar dân oddi ar arfordir Sir Benfro

26/05/2024
Bad Achub Dinbych

Cafodd un person ei achub ar ôl i gwch gael ei ddinistrio gan dân oddi ar yr arfordir yn Sir Benfro.

Cafodd bad achub Dinbych-y-Pysgod ei alw allan am 19:00 ar nos Sadwrn yn dilyn adroddiad gan aelod o’r cyhoedd yn Ynstangbwll eu bod wedi gweld mwg yn codi.

Ar ôl mynd â’r cwch yr Haydn Miller i’r dŵr, fe welodd y criw mwg yn codi ar y gorwel, tua 12 milltir i’r de o Ynys Farged.

Ar ôl cyrraedd y lleoliad, fe wnaethon nhw ganfod fod yr iot, oedd 35 troedfedd o hyd, bron wedi ei gwbl ddinistrio gan dân.

Yn gyfagos, roedd un dyn yn y dŵr, yn cael trafferth i arnofio ac yn diflannu o dan wyneb y dŵr.

Image
RNLI Dinbych y Pysgod

Fe wnaeth aelod o’r criw fynd i’r dŵr ar unwaith i helpu atal y person rhag suddo, tra bod gweddill y criw yn paratoi cyfarpar i’w dynnu ar fwrdd y bad achub.

Ar ôl tynnu'r dyn ar fwrdd y cwch, cafodd gofal cymorth cyntaf ei roi cyn i’r cwch droi yn ôl am Ddinbych-y-Pysgod, ble roedd criw ambiwlans yn disgwyl.

Gan nad oedd y dyn yn gallu cadarnhau os oedd ar ben ei hun ai beidio ar y cwch, fe aeth y bad achub yn ôl i'r lleoliad, gyda bach achub o orsaf Angl a hofrenyddion Gwylwyr y Glannau o Sain Tathan a Newquay o Gernyw yn ymuno.

Wedi ymchwiliad trylwyr o’r ardal dros sawl awr, mewn glaw trwm a thonnau pwerus, ni chafodd unrhyw berson arall eu hadrodd ar goll, ac fe ddaeth yr ymgyrch aml-asiantaeth i ben am 01:00 fore Sul.

Llun: RNLI Dinbych y Pysgod

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.