Newyddion S4C

Un o uwch swyddogion Heddlu Gwent yn euog o gamymddwyn difrifol

26/05/2024
Heddlu Gwent

Mae un o uwch swyddogion Heddlu Gwent, oedd yn wynebu honiadau o gamymddwyn rhywiol, wedi ei gael yn euog o gamymddwyn difrifol.

Fe ymddiswyddodd David Broadway bythefnos cyn wynebu gwrandawiad disgyblu.  

Roedd pryderon ei fod wedi cael parhau i weithio naw mis ar ôl i honiadau gael eu gwneud.

Dywedodd y panel fe fyddai wedi ei ddiswyddo os nad oedd wedi ymddiswyddo cyn y gwrandawiad.

Roedd yn bennaeth cyfiawnder troseddol gyda’r llu ar gyflog o thua £80,000 y flwyddyn.

Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Gwent Pam Kelly, "d’oes dim lle o fewn y llu" am ymddygiad annerbyniol.

Mae gan Mr Broadway yr hawl i apelio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.