Arestio llanc 17 oed ar ôl i ddynes gael ei thrywanu i farwolaeth ar draeth
Mae llanc 17 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddynes farw ar ôl gael ei thrywanu ar draeth yn Dorset.
Dywedodd Heddlu Dorset iddyn nhw gael eu galw i draeth Durley Chine, yn Bournemouth tua 23.45 nos Wener, wedi adroddiadau bod dwy ddynes, y ddwy o Poole, wedi cael eu trywanu.
Fe wnaeth y llu gyhoeddi bod dynes 34 oed wedi marw yn y fan a’r lle tra bod dynes 38 oed wedi’i chludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol iawn.
Amser cinio ddydd Sadwrn dywedodd y llu fod bachgen 17 oed o Sir Gaerhirfryn wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Richard Dixey: “Rydym wedi gweithio’n ddiflino drwy’r nos ers yr adroddiad cychwynnol ac wedi gallu bwrw ymlaen â’n hymchwiliad.
“Yn bennaf oll, mae ein meddyliau gydag anwyliaid y fenyw a gollodd ei bywyd yn drasig iawn.
“Mae swyddogion yn parhau â’u hymholiadau. Mae cordon yn parhau yn ei le ac yn debygol o barhau felly am beth amser.”
Llun: PA